?? Y broses o ddarlledu cerddoriaeth byw ??

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

?? Y broses o ddarlledu cerddoriaeth byw ??

Postiogan Prysor » Sad 19 Gor 2008 8:59 am

All rhywun egluro i mi be sy'n digwydd efo'r sain pan mae cwmni teledu'n darlledu gig byw?

Ydio'n confyrtio analog i ddigidol?

Rheswm dwi'n gofyn ydi - sain Sesiwn Fawr ar y teledu, bob blwyddyn: mae o mor crap ar y teledu, a mor wahanol i be ti'n glywed yn fyw pan ti yno.

Cymharer hynny efo sain y BBC o Glastonbury bob blwyddyn - top notch bob blwyddyn.

Wrth wylio Sesiwn Fawr neithiwr (nos wener) roedd y sain yn uffernol, ond yr engraifft waetha oedd set Chiz. Aeth mewn i'w gan gynta, a dim jesd ei ganu fo oedd allan o diwn, ond ei keyboard o! Roedd fel petai unai fo, neu gweddill y band, yn chwarae yn y key anghywir.

Ar ôl iddo chwarae'r gan - yn broffesiynol iawn dan yr amgylchiadau (achos roedd wedi dechrau sylwi drwy'r moniotrs) - galwodd y boi PA (desg ar y llwyfan) draw, a chwaraeodd ambell nodyn iddo, ac aeth hwnnw'n ôl at y ddesg a ffidlan efo'r nobs i gael y swn yn well. Dwi rioed di clywad am offer cymysgu sy'n amharu ar dôn offerynnau o'r blaen, felly gwnaeth hynny imi feddwl os oedd rwbath ar y ddesg oedd yn confyrtio signal er mwyn darlledu, a bod hwnnw yn cywasgu(?) sain ac yn effeithio ton yr offerynnau - a'r llais (gwneud nhw allan o diwn).

Achos aeth Chiz ymlaen i neud set, a canodd allan o diwn drwyddi. Fel wnaeth o llynedd/flwyddyn cynt. Er, adeg hynny roedd o'n swnio allan o diwn i'r gynulleidfa hefyd.

Ai'r sain sy'n cael ei ddarlledu sy'n cael ei fwydo'n ôl drwy'r monitors? Neu ai cymysgedd o sain digidol ac anaolg? (Maddeuwch fy nhwpdra technolegol gyda llaw)

Dwi di ca'l profiad tebyg fy hun, efo Estynedig. Swn yn iawn yn y lle, a swnio'n cwl drwy'r monitors, ond yn ddiawledig ar y teledu, a fy llais yn crinjlyd o allan o diwn.

Ond os dio'n digwydd i broffesiynal fel Huw Chiswell, mae na rwbath yn gorfod bod yn rong yndoes?

Edrith rywun egluro?
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: ?? Y broses o ddarlledu cerddoriaeth byw ??

Postiogan Rhys Llwyd » Sad 19 Gor 2008 9:11 am

Ro ni'n teimlo union run fath a chdi. Mae Sesiwn Fawr wastad yn ofnadwy ofnadwy ar y teledu - roedd Chiz neithiwr yn arbennig o wael. Roedd e'n swnio fel bod yr adran brês/sax mewn stafell wahanol a bod Chiz yn cannu overdub o stiwdio cefn llwyfan! Wn i ddim lle oedd y bas, gitar a dryms?! Hollol ofnadwy, trienu.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: ?? Y broses o ddarlledu cerddoriaeth byw ??

Postiogan Prysor » Sad 19 Gor 2008 9:20 am

Oedd, yn doedd? Fel sa'r brass wedi cael eu heirio i mewn ar y funud olaf ac wedi cael hen gopiau o'r miwsig o rhyw gyfnod pan oedd Chiz yn canu nhw mewn key gwahanol, a bod neb wedi sylwi cyn mynd ymlaen.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: ?? Y broses o ddarlledu cerddoriaeth byw ??

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 19 Gor 2008 9:41 am

Gai ychwanegu at hyn (wedi codi'r pwynt yn y drafodaeth ar y Sesiwn Fawr hefyd), 1/4 ffordd trwy set Chiz, roedd rhaid i mi fynd i'r car i nôl y wraig o Lanelli, a wnes i sylwi yn syth fod ansawdd y sain LOT well ar Radio Cymru o'i gymharu â S4C. Roedd y lefelau yn gywir, a doedd Chiz sydd i'w glywed yn canu cymaint allan o diwn. Gall rhywun esbonio'r gwahaniaeth enfawr yma rhwng sain Radio Cymru a Sain S4C?!?

Ymwadiad: ma hyn yn dod gan berson sydd ddim yn deall dim am dechnoleg cerddoriaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: ?? Y broses o ddarlledu cerddoriaeth byw ??

Postiogan Mwnci Banana Brown » Sad 19 Gor 2008 12:07 pm

Ma'r sain yn monitors y llwyfan yn seperate i'r sain arall i gyd. Fel arfer, a dwi'n cymryd bod hyn yn wir yn y Sesiwn Fawr, ma peirianydd sain arwahan i'r monitors yn ishte ar ochor y llwyfan. Ma mix y monitors yn wahanol i mix y gynulleidfa achos ma pob offerynwr yn lico clywed mwy neu lai o rwbeth na'r llall.
O ran sain y teledu- sain siwr iawn siwt ma fe'n gweitho achos sai eriod di bod yn neud gwaith sain, ond dwi'n meddwl fel arfer, ma mix y teledu ar wahan fyd. Heblaw falle yn y Sesiwn Fawr leni bo nw wedi cymryd feed yn syth o'r system PA!
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 4:45 pm

Re: ?? Y broses o ddarlledu cerddoriaeth byw ??

Postiogan Hazel » Sad 19 Gor 2008 12:11 pm

Prysor a ddywedodd: mae o mor crap ar y teledu, a mor wahanol i be ti'n glywed yn fyw pan ti yno.


Mor gywir iawn ond "Mae dŵr yn chwilio am ei lefel ei hun".
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: ?? Y broses o ddarlledu cerddoriaeth byw ??

Postiogan Mwnci Banana Brown » Sad 19 Gor 2008 1:24 pm

Hazel a ddywedodd:
Prysor a ddywedodd: mae o mor crap ar y teledu, a mor wahanol i be ti'n glywed yn fyw pan ti yno.


Mor gywir iawn ond "Mae dŵr yn chwilio am ei lefel ei hun".

Oh..we ni'n meddwl bo dwr wastod yn dilyn y crowd!

:? Wdw i di miso rwbe fanhyn?!
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 4:45 pm

Re: ?? Y broses o ddarlledu cerddoriaeth byw ??

Postiogan Lals » Sul 20 Gor 2008 9:53 am

Roedd hi'n boenus gwrando ar Chiz ar y teledu - hollol allan o diwn. Wnes i droi i sianel arall i osgoi'r embarrasment. Dw i ddim yn siwr beth oedd y broblem mewn gwirionedd, ai Chiz ei hun oedd e? Roedd Sibrydion yn swnio'n OK ar yr un noson ac roedd Endaf Emlyn yn iawn y diwrnod wedyn.
"ti'n gwybod be i neud pan dwisio mwytha"
Lals
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 237
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 9:27 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: ?? Y broses o ddarlledu cerddoriaeth byw ??

Postiogan Swnen » Sul 20 Gor 2008 10:17 am

O'r hyn glwyis i ddoe gan hwn a'r llall odd yno nos wener mi odd o'n swnio'r un mor grinjlyd o allan o diwn yno hefyd...

Ond dwi'n dallt dim am y stwff technegol :winc:
Swnen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 29
Ymunwyd: Gwe 27 Ion 2006 9:57 pm
Lleoliad: Adre yn ty ni


Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai