Tudalen 1 o 1

Lladron y Steddfod?

PostioPostiwyd: Llun 11 Awst 2008 1:58 pm
gan Gai Toms
Wedi gig yng Nghlwb Ifor Bach nos Fawrth (Awst, 5ed) es i nol y ger bore wedyn. Yn anffodus, roedd rhywun wedi dwyn fy pedal distortion melyn - 'Boss OD-20 Drive Zone' newydd sbon. Digwydd bod, roedd cas tuning pedal Jos (y gitarydd) wedi diflannu hefyd. Rhyfedd bod dau beth o'r un disgrifiad wedi mynd yr un amser - hynny yw: Pedals bychain hawdd i'w cario a'u gwerthu yn sydyn! Lwcus bod pedal Jos ddim yn y cas.

Gwelais George (gitarydd o G'dydd) ar y maes dydd Gwener, ac oedd rhywun wedi dwyn ei bedals o hefyd.

Os ydi rhywun yn gwybod rywbeth, plis cysylltwch.

Falla bod rhywun o fand arall wedi mynd a nhw drwy gam-gymeriad?

Re: Lladron y Steddfod?

PostioPostiwyd: Iau 28 Awst 2008 10:55 am
gan Gorwel Roberts
Gest ti dy stwff yn ol wedyn?

Re: Lladron y Steddfod?

PostioPostiwyd: Iau 28 Awst 2008 12:55 pm
gan EsAi
glwish i bo bass amp derwyddon di cal traed hefyd!

Re: Lladron y Steddfod?

PostioPostiwyd: Gwe 29 Awst 2008 9:51 pm
gan Dr Gonzo
Strap gitar fi di crwydro fyd....
afiach