Wedi gig yng Nghlwb Ifor Bach nos Fawrth (Awst, 5ed) es i nol y ger bore wedyn. Yn anffodus, roedd rhywun wedi dwyn fy pedal distortion melyn - 'Boss OD-20 Drive Zone' newydd sbon. Digwydd bod, roedd cas tuning pedal Jos (y gitarydd) wedi diflannu hefyd. Rhyfedd bod dau beth o'r un disgrifiad wedi mynd yr un amser - hynny yw: Pedals bychain hawdd i'w cario a'u gwerthu yn sydyn! Lwcus bod pedal Jos ddim yn y cas.
Gwelais George (gitarydd o G'dydd) ar y maes dydd Gwener, ac oedd rhywun wedi dwyn ei bedals o hefyd.
Os ydi rhywun yn gwybod rywbeth, plis cysylltwch.
Falla bod rhywun o fand arall wedi mynd a nhw drwy gam-gymeriad?