http://www.guardian.co.uk/business/2008 ... .investing
Wedi clywed am y syniad yma ar bodcast y Leningradian bore ma - mae'n swnio fel syniad reit ddifyr. Dwi ddim yn dallt y busnas yn iawn, ond be ydio ydi cyfle i bobol brynu siârs mewn band er mwyn eu galluogi nhw i recordio am y tro cynta ac yna cael rhan o'r elw. Alla fo gael ei efelychu ar sgêl lot llai yn Gymraeg, fel un ffordd o wneud recordio CD yn Gymraeg yn fwy viable gan fod breindaliadau yn gostwng?
Mae'n bosib iawn bod o'n syniad cachu - y broblem mae'n siŵr ydi nad oes 'na ddim proffit gwerth sôn amdano mewn canu Cymraeg?