Tudalen 1 o 1

Gweithdy Byrfyfyrio a Gŵyl Goedwig 27.09.08

PostioPostiwyd: Maw 23 Medi 2008 9:55 am
gan Gorwel Dau
Gweithdy Byrfyfyrio Cerdd gyda KOO (Jim Knight, Fiona Owen & Gorwel Owen) fel rhan o Ŵyl Goedwig Garreglwyd. Byddwn yn canolbwyntio ar wrando a chreu synau yn hytrach na defnyddio nodiant confensiynol. Bydd y gweithdy yn addas ar gyfer oedrannau 16 i oedolyn, a byddwn yn ei redeg dwywaith yn ystod y dydd (11.30-1.30 and 2.30-4.30). Dewch ag offeryn sydd ddim angen gwasanaeth trydan os gwelwch yn dda, neu, gallwch gymryd ran drwy ddefnyddio eich llais. Os oes dim offeryn gyda chi a/neu hoffwch gael sgwrs o flaen llaw, croeso i chi gysylltu â Gorwel ar 01407 810742 neu drwy e-bost koo@rhwng.com (Gwefan KOO: http://www.rhwng.com/koo)

Dwi methu atodi 'flyer' cyffredinol i'r ŵyl, sydd â llawer o weithgareddau amrywiol, yn y seiat yma. Os wyt ti isio ni ebostio 'flyer', yna ebostia koo@rhwng.com

Hwyl!

Re: Gweithdy Byrfyfyrio a Gŵyl Goedwig

PostioPostiwyd: Maw 23 Medi 2008 9:58 am
gan khmer hun
Pryd mae'r wyl goedwig? Se well ti roi e yn y pennawd?

Re: Gweithdy Byrfyfyrio a Gŵyl Goedwig

PostioPostiwyd: Maw 23 Medi 2008 10:08 am
gan Gorwel Dau
khmer hun a ddywedodd:Pryd mae'r wyl goedwig? Se well ti roi e yn y pennawd?


Syniad grêt! Dwi wedi ei newid rwan.
Diolch yn fawr.

Re: Gweithdy Byrfyfyrio a Gŵyl Goedwig 27.09.08

PostioPostiwyd: Maw 23 Medi 2008 10:11 am
gan khmer hun
o.n. wedi mwynhau'r sgwrs ar 'Sesiwn Fach' b'nawn sadwrn gyda llaw. ond, erm, a ddealles ti air o 'Yr Eneth Fechan Glaf' gan Georgia Rwth Williams?! Pam canu'r gân os nad oedd gair ohoni i'w deall?

o.n.n. erm, sori, wedi dy gymysgu, Gorwel, â Gorwel Roberts! Anwybydda'r neges x

Re: Gweithdy Byrfyfyrio a Gŵyl Goedwig 27.09.08

PostioPostiwyd: Maw 23 Medi 2008 10:24 am
gan Gorwel Dau
o.n.n. erm, sori, wedi dy gymysgu, Gorwel, â Gorwel Roberts! Anwybydda'r neges x[/quote]

Dim problem. Gorwel Un ydi o.

Re: Gweithdy Byrfyfyrio a Gŵyl Goedwig 27.09.08

PostioPostiwyd: Maw 23 Medi 2008 12:29 pm
gan Gorwel Roberts
Gorwel Dau a ddywedodd:o.n.n. erm, sori, wedi dy gymysgu, Gorwel, â Gorwel Roberts! Anwybydda'r neges x


Dim problem. Gorwel Un ydi o.[/quote]

oni meddwl mai ti oedd Gorwel Un a fi ydi Gorwel 2 a 1/2???

eniwe, mae byrfyfyrio rhydd yn y coed yn swnio'n hwyl