Danny Boy yn Gymraeg???

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Danny Boy yn Gymraeg???

Postiogan Gorwel Roberts » Mer 24 Medi 2008 1:28 pm

Oes rhywun yn gwybod am fersiwn Gymraeg o 'Danny Boy' naill ai wedi ei recordio gan rywun neu'r geiriau yn unig???
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Danny Boy yn Gymraeg???

Postiogan Cardi Bach » Mer 24 Medi 2008 2:30 pm

Na sori, ond garantid fod Pafaroti Llambed neu Wil Tan neu hyd yn oed Big Bryn T wedi recordio fersiwn yn iaith y nefoedd rywbryd.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Danny Boy yn Gymraeg???

Postiogan bartiddu » Mer 24 Medi 2008 7:18 pm

Dyma'r "ferswin(c)" gorau allen i ddod lan a mewn 10 munud :P Geiriau Danny Boi

O Dani grwt, pibellau sydd yn galw
O gwm i gwm i lethrau’r mynydd fri
Fe aeth yr haf a’r blodau sydd yn huno
Fe aethost di ac aros a wnaf i
Ond tyrd di nôl pan haf fydd yn y caeau
Neu’r dawel glyn dan eira oer a gwyn
Fe fyddaf yma heulwen neu cyhyddoedd
O Dani grwt o Dani grwt fe garaf di.


Ac os fe ddeu pan hunuth ôll y blodau
A gelain wyf yn cysgu dan y baw
Dere di nôl i’r lle lle’r wyf yn gorwedd
A plyga lawr i ddweud farwel i mi.


Mi glywaf di ath dyner droed uwchben i mi
Breuddwydion cynes melys fydd gen i
Ac os na ddeu di yma i’m cysuro
Cysgu a wnaf tan ddeu di ataf i.


Croeso i bawb i'w addasu/gwella :gwyrdd:
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl


Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron