gan dawncyfarwydd » Maw 02 Rhag 2008 10:48 am
Mae 'na ddau yn mynd i ryfel y tu allan i'r Pen Deitsh,
tra bo'r afon dal i chwydu ei phoen i'r aber,
mae 'na sŵn poteli'n chwalu fel priodas i lawr y lôn,
a neb yn meddwl gofyn pam fel arfer;
mae 'na ferched heb fodrwyau yn siarad celwydd noeth,
mae'r dref fel tae 'di'i mwrdro ar ei hyd;
ond mae'r lleuad dal i wenu ar hen strydoedd budur hon
fel pob tref ddifyr arall yn y byd.
Mae'n flêr a does na'm seren heno i mi uwch fy mhen;
dwi'n geiban ond yn gwybod mai yma wyf inna i fod.
Mae 'na ddiwrnod newydd arall yn sleifio i lawr Stryd Llyn
ac mae hogiau'r ochor bella'n dod yn heidiau,
a dod y maen nhw i gwyno nad oes unlle gwell i fynd
cyn mynd i'r Harp i yfed efo'u teidiau.
Does ganddyn nhw ddim breuddwyd na 'chwaith yr un llong wen,
ond mae ganddyn nhw ei gilydd reit o'r crud,
ac mae'r haul yn dal i godi calonnau'r dref fach hon
fel pob tref ddifyr arall yn y byd.
Mae'n flêr a does na'm seren heno i mi uwch fy mhen;
dwi'n geiban ond yn gwybod mai yma wyf inna i fod.
A'r hogia llygaid barcud, efo'u sŵn a'u rhegi mawr,
y rhain sy' piau pafin pob un stryd,
ond yr rhain a'u hiaith eu hunain sy'n cadw'r dref yn fyw,
fel pob tref ddifyr arall yn y byd.
Mae'n flêr a does na'm seren heno i mi uwch fy mhen;
dwi'n geiban ond yn gwybod mai yma wyf inna i fod.