Methu ffeindio cân cymraeg....

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Methu ffeindio cân cymraeg....

Postiogan Gwyrdd » Iau 25 Rhag 2008 12:47 am

Hylo.
Ma' na cân, neu emyn, sy'n cael y geiriau 'Rhag pob brad, nefol dad, cadw di gartrefi'n gwlad,' fel y cytgan ond dwi'n methu cofio gweddill yr eiriau (ond am 'a phob teulu'n teulu Duw' cyn y cytgan...) ac mae google heb helpu o gwbl gyda teitl na gweddill yr eiriau.

Os gan unrhywyn arall syniad?
gobeithio wnes i dewis y rhan iawn o 'cerddoriaeth' i postio hwn mewn :)
nadolig llawen :D
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyrdd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Sul 30 Maw 2008 10:31 am

Re: Methu ffeindio cân cymraeg....

Postiogan sian » Iau 25 Rhag 2008 2:13 am

827 yn Caneuon Ffydd

Cofia'n gwlad, Benllywydd tirion, 

dy gyfiawnder fyddo'i grym:

cadw hi rhag llid gelynion, 

rhag ei beiau'n fwy na dim:

rhag pob brad, nefol Dad,

taena d'adain dros ein gwlad.

Yma mae beddrodau'n tadau, 

yma mae ein plant yn byw;

boed pob aelwyd dan dy wenau, 

a phob teulu'n deulu Duw:

rhag pob brad, nefol Dad,

cadw di gartrefi'n gwlad.

Gwna'n Sabothau'n ddyddiau'r nefoedd

yng ngoleuni d'eiriau glân; 

dyro'r gwlíth i'n cymanfaoedd,

gwna ein crefydd fel ein cân: 

nefol Dad, boed mawrhad 

ar d'Efengyl yn ein gwlad.

ELFED, 1860-1953
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor


Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron