Flwyddyn yma fe fydd Antur Waunfawr yn dathlu 25 mlynedd ers ei sefydlu yn 1984. I ddathlu fe fydd gigiau awyr agored yn cael eu cynnal tu allan i’r brif safle yn Waunfawr. Ymysg y bandiau sydd wedi cadarnhau i fod yn chwarae mae Sibrydion, Drumbago a Gai Toms.
Rydym yn gobeithio gallu cael Gwyl Fai mor werdd a phosib eleni, ac byddem yn gwneud ymdrech arbennig i gynnal yr wyl ar egni adnewyddadwy.