Tudalen 1 o 2

dim Sesiwn Fawr 2009

PostioPostiwyd: Maw 24 Chw 2009 11:12 pm
gan Beti
Y si yn ol y Gweplyfr ydi bo na ddim Sesiwn Fawr eleni. Maen nhw mewn dyled ac yn ofni blwyddyn wael arall.

Re: dim Sesiwn Fawr 2009

PostioPostiwyd: Mer 25 Chw 2009 9:22 am
gan Llefenni
Ffaaaaaaaac :x

Sôn falle o fynd nôl i wreiddie gigs-yn-pubs yn lle'r sboets ar y Marian?

Bols :( (ond bols disgwyliadwy)

Re: dim Sesiwn Fawr 2009

PostioPostiwyd: Mer 25 Chw 2009 2:39 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
o'dd o'n well ar y sgwar eniwe! 8)

Re: dim Sesiwn Fawr 2009

PostioPostiwyd: Mer 25 Chw 2009 6:22 pm
gan osian
Och, ond mi glywais inna si cynt eu bod nhw wedi cyhoeddi ar y radio y bydd 'na sesiwn fawr...

Re: dim Sesiwn Fawr 2009

PostioPostiwyd: Mer 25 Chw 2009 9:04 pm
gan Hedd Gwynfor
Cnapan wedi mynd, nawr Sesiwn fawr, Macs yn dod i ben ar ol dwy flynedd. Pethe ddim yn edrych yn dda ar Wyliau cerddorol Cymraeg/Cymreig. :(

Re: dim Sesiwn Fawr 2009

PostioPostiwyd: Mer 25 Chw 2009 11:34 pm
gan osian
Na'th rhywun son bod rhywun arall wedi clywad cystadleuaeth ar radio i ennill tocynna i'r sesiwn 'leni - dydi'r ffynhonell ddim y mwya' dibynadwy ella, ond sa'm angan mynd o flaen gofid.

Re: dim Sesiwn Fawr 2009

PostioPostiwyd: Iau 26 Chw 2009 10:02 am
gan Cardi Bach
osian a ddywedodd:Na'th rhywun son bod rhywun arall wedi clywad cystadleuaeth ar radio i ennill tocynna i'r sesiwn 'leni - dydi'r ffynhonell ddim y mwya' dibynadwy ella, ond sa'm angan mynd o flaen gofid.


Dim lot o siawns o hynna, mae arna i ofn.
Dyw'r Sesiwn ddim wedi dod i ben 'ffor gwd', ond mae'n deg dweud na fydd yna Sesiwn yn 2009.

Re: dim Sesiwn Fawr 2009

PostioPostiwyd: Iau 26 Chw 2009 1:34 pm
gan Gethin Ev
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Cnapan wedi mynd, nawr Sesiwn fawr, Macs yn dod i ben ar ol dwy flynedd. Pethe ddim yn edrych yn dda ar Wyliau cerddorol Cymraeg/Cymreig. :(


Ella na diffyg trefnu / paratoi ar y trefnwyr ydio? Yn hytrach na ddim byd Cymraeg/Cymreg. Dwi'm yn meddwl na dyna ti'n feddwl. Just 'in general' ti'n ddeud ia?

Ma gwyliau fel Garreg Las, Cenhedloedd Bychain, Gŵyl Workouse, Gŵyl Llandovery (dim y cenhedloedd bychain, y llall), Maes-b i raddau, i enwi pump, i weld yn gwerthu allan bob blwyddyn. Pam bod o gymaint o broblem i Sesiwn Fawr, Gŵyl Macs a Cnapan? Mha gyneulleidfa sesiwn fawr yn eithaf driw, dydio ddim fatha bod na lai o bobl wedi bod yn troi i fyny yn blynyddoedd dweathaf nadi? Ta ydio?

Re: dim Sesiwn Fawr 2009

PostioPostiwyd: Iau 26 Chw 2009 1:58 pm
gan Ray Diota
Gethin Ev a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Cnapan wedi mynd, nawr Sesiwn fawr, Macs yn dod i ben ar ol dwy flynedd. Pethe ddim yn edrych yn dda ar Wyliau cerddorol Cymraeg/Cymreig. :(


Ella na diffyg trefnu / paratoi ar y trefnwyr ydio? Yn hytrach na ddim byd Cymraeg/Cymreg. Dwi'm yn meddwl na dyna ti'n feddwl. Just 'in general' ti'n ddeud ia?

Ma gwyliau fel Garreg Las, Cenhedloedd Bychain, Gŵyl Workouse, Gŵyl Llandovery (dim y cenhedloedd bychain, y llall), Maes-b i raddau, i enwi pump, i weld yn gwerthu allan bob blwyddyn. Pam bod o gymaint o broblem i Sesiwn Fawr, Gŵyl Macs a Cnapan? Mha gyneulleidfa sesiwn fawr yn eithaf driw, dydio ddim fatha bod na lai o bobl wedi bod yn troi i fyny yn blynyddoedd dweathaf nadi? Ta ydio?


dyna on i'n meddwl... ffaelu deall shwt ma Sesiwn Fawr yn gallu neud colled, rili. Gorymestyn fydde nghyhuddiad i o ran y gwylie sy'n gweld yr hwch yn mynd drwy'r siop. Odd angen i Sesiwn Fawr droi at GLC a'r Super Furries? Odd angen i'r Cnapan neud yr un peth, bron, bac in ddy dei? Odd Gwyl Macs ishe cerdded cyn cropian?

O ran Sesiwn Fawr, ma ishe ishte lawr a meddwl tamed bach lle ma'r gap yn y farchnad... dwi'm yn gwbod dim byd am fiwsic ond dwi'n gwbod bo fi'n gallu gweld Super Furries, GLC etc dros y siop ym mhobman dros yr haf...

Re: dim Sesiwn Fawr 2009

PostioPostiwyd: Sad 28 Chw 2009 10:07 am
gan Prysor
costau Helth and Seffti a cymlethdod diangen y system trwyddedu - biwrocratiaeth wedi mynd yn ffycin nyts ers ma New Labour i mewn. Dyna sy'n lladd miwsig byw yng Nghymru.