Gitâr

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gitâr

Postiogan Hogyn o Rachub » Sul 05 Ion 2003 12:23 pm

Osna rywun yn fama'n chwarae gitâr ac os felly sut y dysgoch chi o?

Nes i gwitio gitâr blynyddoedd yn ôl ac mae un fi heb strings arno fo rwan, ond mae gen i awydd ei ddechrau eto [doeddwn i dda i ddim. Hoples].

Bethbynnag dwisho gofyn oes yno ryw "Teach Yourself" llyfra' 'na yn dda i rwbath ne ddylwn i gael atho eto [Rhys Parry oedd un fi. Dwi'n cofio cael gwersi pryd oedd Ren and Stimpy ar a doeddwn i ddim yn hapus iawn!]

Sut dysgoch chi'r gitâr?

Iechyd cymharol!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Gitâr

Postiogan R-Bennig » Sul 05 Ion 2003 1:16 pm

Nes i gwitio gitâr blynyddoedd yn ôl ac mae un fi heb strings arno fo rwan, ond mae gen i awydd ei ddechrau eto [doeddwn i dda i ddim. Hoples].

Bethbynnag dwisho gofyn oes yno ryw "Teach Yourself" llyfra' 'na yn dda i rwbath ne ddylwn i gael atho eto [Rhys Parry oedd un fi. Dwi'n cofio cael gwersi pryd oedd Ren and Stimpy ar a doeddwn i ddim yn hapus iawn!]

Trio 'car boot sales', mae wastad llyfrau neu Cd's 'teach yerself' ar gael, rwi heb gweld cwrs gitar ar 'nite Classus' Coleg Menai, ond rwi cofia gweld Gwynfryn Cymunedol redeg rhyw 'weekenders' fel 'Sut I Fod Ser Bop' neu rhywbeth, neu gafael rhywun fel John Doyle am 'master class'?
Mae lot o cerddorion da o gwmpas Pesda am petha fel na, personally rwi'n mynd i'r Hendrix ysgol, llosgi'r peth ar y llwyfan, rwi'n bwriadu neud y jobyn gyda Metal detector ond fydd ogla'r uffern ar y llwyfan siwr o fod.
Roedd Maffia Mr Huws da am gwersi yn ol hanes bop Gymraeg.
Trio http://www.ebay.com mae siwr i fod rhywbeth fanna.
Tybed ar CURIAD neu rhyw gwasg CD-ROM Gymraeg hefyd?
R
R-Bennig
 

Postiogan Ramirez » Sul 05 Ion 2003 2:13 pm

neshi ddysgu'n hun rili, dwi rioed di cal gwersi na llyfr. acshyli neshi ddechra ar bass, a dyna dwi'n chwara yn y band dwi yno fo, ond neshi ddechra dysgu basics gitar- chord shapes etc., a nath hynny helpu fi lot efo chwara bass. rwan dwin chwara gymaint o gitar a bass rili, heblaw yn y band. jysd digon o ymarfer ydio rili. os tisho chwara rhythm, jysd dysga bar chords- yr un siap ydi lot ohonynw, ac os tisho chwara lead, dysga lot o scales- dyna ydi'r petha mwya defnyddiol ar gyfer improvisio.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

well Sgamics

Postiogan R-Bennig » Sul 05 Ion 2003 2:22 pm

Ramirez a ddywedodd:neshi ddysgu'n hun rili, dwi rioed di cal gwersi na llyfr. acshyli neshi ddechra ar bass, a dyna dwi'n chwara yn y band dwi yno fo, ond neshi ddechra dysgu basics gitar- chord shapes etc., a nath hynny helpu fi lot efo chwara bass. rwan dwin chwara gymaint o gitar a bass rili, heblaw yn y band. jysd digon o ymarfer ydio rili. os tisho chwara rhythm, jysd dysga bar chords- yr un siap ydi lot ohonynw, ac os tisho chwara lead, dysga lot o scales- dyna ydi'r petha mwya defnyddiol ar gyfer improvisio.


Ram,
well sgam yw paid plygio'r gitar fewn o gwbl, slash yer wrists a neud disappearing act ar cusp enwogrwydd fel Richey Manic, sy'n fyw yn Sgubor goch mae'n debyg, un o'r 'Baseball cap bois' C'Fon.
Hen bryd i helfa Richey eto yn y NME.
Neu fel Gruff SFA prynny rhywbeth rili flash o'r 70'au heb chwarae dim tant, fydd pawb yn edmygu'r 'Glitter band gitar' heb syssio di allan.
R
R-Bennig
 

Re: Gitâr

Postiogan Gruff Goch » Sul 05 Ion 2003 2:57 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Osna rywun yn fama'n chwarae gitâr ac os felly sut y dysgoch chi o?

Nes i gwitio gitâr blynyddoedd yn ôl ac mae un fi heb strings arno fo rwan, ond mae gen i awydd ei ddechrau eto [doeddwn i dda i ddim. Hoples].

Bethbynnag dwisho gofyn oes yno ryw "Teach Yourself" llyfra' 'na yn dda i rwbath ne ddylwn i gael atho eto [Rhys Parry oedd un fi. Dwi'n cofio cael gwersi pryd oedd Ren and Stimpy ar a doeddwn i ddim yn hapus iawn!]

Sut dysgoch chi'r gitâr?

Iechyd cymharol!


Ma 'na becyn dysgu chwarae gitâr ar CD-Rom ar gael o PC World Bangor- £15 am 5 CD efo arddull gwahanol ar bob un. Heb drio fo fy hun, ond ma hynny i weld yn rhad iawn. Y syniad gora, fodd bynnag, ydi cael gafael ar lyfr o ganeuon wyt ti'n gyfarwydd â nhw ac sy'n rhestru'r cordiau efo'r geiriau, fel bo gen ti syniad be wyt ti'n trio chwarae (gwell fyth os oes 'na chord boxes uwch y cordiau hefyd) . Mae llyfr Meic Stevens yn dda felly ('I Adrodd yr Hanes'), a rhai o lyfrau'r Beatles, gan nad ydi'r cordiau'n rhy anodd- cadwa'n glir o prog rock ar hyn o bryd...

Os wyt ti eisiau noodlio, yna scales, fel ddudodd Ramirez, ydi'r boi. Tria ddysgu'r major, minor a'r blues scale symudol i ddechrau.

Pob lwc,

Gruff
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Re: Gitâr PC world

Postiogan R-Bennig » Sul 05 Ion 2003 3:26 pm

[
Ma 'na becyn dysgu chwarae gitâr ar CD-Rom ar gael o PC World Bangor- £15 am 5 CD efo arddull gwahanol ar bob un. Gruff[/quote]

GG,
Wyt ti'n cael nawdd o PC WORLD?
Yn bersonol rwi'n recno rhaid i chi osgoi y cash-in ar Meic Stevens, cyn ti'n edrych embarrased ar S4C pan Meic yn cael ffric owt yn Golwg ac yn galw dy band 'Jerks gyda wall of sound a dim caneuon'' (SFA's) tydi hwn ddim yn eistedd rhy da gyda'r management (Ankst/Alun Llwyd) sy'n trio 'damage limitation gwers', ac wedyn dropio'r cover version o'r set fyw yn fuan iawn, dwn i ddim be mae Meic yn meddwl am AP TED A'r Apostolion eto, syniad arall yw cerddi mebyd gymraeg, haws dysgu, a fydd neb syssio di allan. mae Mark/Cyrff/Catatonia di chwarae'r r'un choord progressions ers day 1 a neb di syssio nhw allan. beth am MIDI GITAR hen Roland, gwd pose factor ar TOTP's fel THE SHAMEN.
Trio argos nid PC world am hwnna!
R
R-Bennig
 

Re: Gitâr PC world

Postiogan Gruff Goch » Sul 05 Ion 2003 3:29 pm

R-Bennig a ddywedodd:Wyt ti'n cael nawdd o PC WORLD?


Na, ond dylwn i! Dwi di bod nôl a mlaen yna rhyw 4 gwaith yn y deuddydd diwetha'n trio cael y gwifrau iawn i fi gael cloi yr anghenfil swnllyd o PC sy gen i yn y cwpwrdd. Er mod i'n gwybod fod PC World yn enghraifft arall o gyfalafiaeth di-reolaeth byd busnes mawr yn tra-arglwyddiaethu arnon ni (ylwch, dwi'n gallu sgwnnu geiria mawr!), mae'n braf peidio gorfod cymryd tridiau o wylia o'r gwaith er mwyn disgwyl i'rdyn deliveries ddod a offer sy' byth yn cyrraedd...

Gruff :D
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Re: Gitâr PC world

Postiogan Gruff Goch » Sul 05 Ion 2003 3:40 pm

R-Bennig a ddywedodd:Yn bersonol rwi'n recno rhaid i chi osgoi y cash-in ar Meic Stevens, cyn ti'n edrych embarrased ar S4C pan Meic yn cael ffric owt yn Golwg ac yn galw dy band 'Jerks gyda wall of sound a dim caneuon'' (SFA's) tydi hwn ddim yn eistedd rhy da gyda'r management (Ankst/Alun Llwyd) sy'n trio 'damage limitation gwers', ac wedyn dropio'r cover version o'r set fyw yn fuan iawn, dwn i ddim be mae Meic yn meddwl am AP TED A'r Apostolion eto, syniad arall yw cerddi mebyd gymraeg, haws dysgu, a fydd neb syssio di allan. mae Mark/Cyrff/Catatonia di chwarae'r r'un choord progressions ers day 1 a neb di syssio nhw allan.


On i'n gwybod fasa chdi'n deud hynny! Mewn difri calon Mr R-bennig, mae'n rhaid i ti wylio nad wyt ti'n mynd yn predictable yn dy henaint!

Gruff :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Re: Cylch byd

Postiogan R-Bennig » Sul 05 Ion 2003 3:57 pm

On i'n gwybod fasa chdi'n deud hynny! Mewn difri calon Mr R-bennig, mae'n rhaid i ti wylio nad wyt ti'n mynd yn predictable yn dy henaint!

Gruff :winc:[/quote]

Ie,
Mae byd cerddorol yn cylch, yn pendant, s'dim byd newydd, ti'n ail adrodd dy yrfa bob tair flynedd, SRG newydd?..r'un trefn mewn gwirionedd, r'un Johnny R siwr o fod, r'un cwynion, r'un act, adloniant uyw y gair dim ots a pha platfform, ond r'oedd y rant Stevens gwir, gwers yw paid meddwl fod ti'n mwy cwl na hen stagers, rwi ddim, mae'n braf gweld gwaith Trevor Horn ar y brig eto gyda T-A-T-U ynde? :D Gallwch gyrru JCB trwy rhai datganiadau cwmniau recordio, mae'r cyhoedd rhy rhy gullible, wastad wedi bod. Tybed mae nhw gwybod, fath o masochism yw e?
Ers i ddraw i P/C World, rwi'n hoff o'r ciwt CD-Rs bach newydd 23 muned 3" CD's lliwgar, heb gweld un y Gymraeg eto..hmmm
Maint y clawr yn diddorol.
P/C Bores..rwi am sgwennu can i Catrin Dafydd rwan..'Butcher Atolwg' neu rwbeth..
R
R-Bennig
 

Postiogan Ramirez » Sul 05 Ion 2003 4:17 pm

dwi heb ymweld a'r PC World eto, ond dwi ffansi neud. Pres dolig wedi cyrraedd, hehe!
Hogyn o Rachub- ar ol i chdi sortio'r scales nath G.G son amdanynw, tria Egyptian scales- ma nw'n smart!
Geni I Adrodd yr Hanes efyd. Yr unig broblem os ti'n dilyn llyfrau fel hyn ydi ti ddim yn cael fawr ddim am techniques a bod yn greadigol, ti jysd yn cal set o gordiau, ac mae'r un rhei yn popio fyny yn y mwyafrif o'r caneuon.
Ma dysgu barre chords yn mynd i agor lot o ddrysa: e.e un siap i cordiau major, un siap i minor, un siap i 7th's etc, a ti jysd yn iwsho'r siap yna position gwahanol ar y neck.
Gwd example o lead guitar brilliant sy'n dibynnu lot ar blues scales ydi stwff Slash o Guns 'N Roses, heb son am bobol fel B.B King a Eric Clapton yn amlwg.
Latin scales- Santana.
Egyptian scales- Ym, dwnim, ond ma nw mor wych!

Blwyddyn newydd dda,
Ramirez
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai