Tudalen 1 o 1

Geiriau Douarnenez Meic Stevens

PostioPostiwyd: Llun 15 Meh 2009 1:14 pm
gan Sioni Size
Unrhyw un yn medru rhoi'r geiriau i Douarnenez?

Re: Geiriau Douarnenez Meic Stevens

PostioPostiwyd: Llun 15 Meh 2009 5:32 pm
gan osian
Dwi'n shwr bod nhw yn y llyfr o ganeuon Meic - I Adrodd yr Hanes os di hynny yn help. Dwi'm yn gallu ffendio'r llyfr ar y funud, ddoi nol os 'nai.

Re: Geiriau Douarnenez Meic Stevens

PostioPostiwyd: Llun 15 Meh 2009 7:01 pm
gan Josgin
Pawb ond y canwr ei hun . Welais i rioed mohono fo'n cofio'r geiriau na'r alaw !

Re: Geiriau Douarnenez Meic Stevens

PostioPostiwyd: Llun 15 Meh 2009 8:47 pm
gan osian
Chwara teg, mae o'n cofio'r "Douarnanez, Douarnanez, pysgod yn y bore..." dydi, a does na'm llawar mwy iddi na hynny

Rywun yn cofio'r soprano 'na - on o'r chwiorydd James ne wbath? - yn canu Douarnanez yn ryw gyngerdd steddfod i ddathlu penblwydd Meic?
"Douarnanez, Douarnanez, pinafal ar ei phen" oedd hi'r adeg honno am fod ganddi wallt mor wirion.

Re: Geiriau Douarnenez Meic Stevens

PostioPostiwyd: Mer 17 Meh 2009 10:11 am
gan Sioni Size
wel corrach, gobeithio bo ti'm bron a gorffen achos dyma fo. Ella nai stopio canu 'wombats, piniwns, drymiau'n taro' rwan

Douarnenez, Douarnenez, pysgod yn y bore
Douarnenez, Douarnenez, cychod wrth y cei
Douarnenez, Douarnenez, heddiw ar ei ore
Douarnenez, Douarnenez, cychod wrth y cei

Glas a gwyrdd a gwyn yw’r môr a'r coed a’r nen yn Douarnenez
Yn y farchnad pysgod stwr ar lan y dwr yn Douarnenez

Douarnenez, Douarnenez, pysgod yn y bore
Douarnenez, Douarnenez, cychod wrth y cei
Douarnenez, Douarnenez, heddiw ar ei ore
Douarnenez, yn yr haul, cychod wrth y cei

Bombards, binious drymiau’n taro gyda’r hwyr yn Douarnenez
Wrth yr eglwys ro’n i’n dawnsio mewn fest noz yn Douarnenez

Douarnenez, Douarnenez, cychod yn y bore
Douarnenez, Douarnenez, pysgod ar y cei
Douarnenez, Douarnenez, heddiw ar ei ore
Douarnenez, Douarnenez, cychod wrth y cei

Awn yn ôl cyn bo hir dros y môr i Douarnenez
Cerddwn ni drwy’r strydoedd cul i fwyta moules yn Douarnenez

Douarnenez, Douarnenez, pysgod yn y bore
Douarnenez, Douarnenez, cychod wrth y cei
Douarnenez, Douarnenez, heddiw ar ei ore
Douarnenez, yn yr haul, cychod wrth y cei

Re: Geiriau Douarnenez Meic Stevens

PostioPostiwyd: Mer 17 Meh 2009 12:53 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
pam ti'n gofyn os ti'n gwbod yn barod...?! y smarti pants. :o

Re: Geiriau Douarnenez Meic Stevens

PostioPostiwyd: Mer 24 Meh 2009 12:36 pm
gan Sioni Size
Wel, dracsiwt, mae'r esboniad yn eithaf syml. Nid oedd y wybodaeth gennyf pan wnaethpwyd y cais, ond ar ol dyfal wrando a chroesjecio gyda'r llydawr a ymholodd yn y lle cyntaf daeth yr union eiriau i'r fei, a phenderfynwyd eu cyhoeddi cofn y byddai eraill yn ceisio datrys yr ymholiad gan wastraffu eu hamser.
So dder.

Re: Geiriau Douarnenez Meic Stevens

PostioPostiwyd: Iau 25 Meh 2009 4:18 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
diolch am yr esboniad clir a chryno. :ofn:
ceisiais inna' gofio'r geiria', ond darganfod fy hun yn canu "pysgod yn y bo-o-re, douarnanez, douarnanez, dy dy dy dy dy" felly diolch i ti, smarti. mi all cymru gyfa' gysgu'r nos yn well rwan bod yr "ymholiad wedi'i ddatrys". ffiw! sioni sefs ddy de.