Tudalen 1 o 1

chwibanogl??

PostioPostiwyd: Llun 13 Gor 2009 4:07 pm
gan SerenSiwenna
Dwi di bod wrthi'n trio bwcio band traddodiadol i'r priodas cw, ac, wrth i chwilio, ddes ar draws y "chwibanogl" ar wefan crasdant. Dwi'n hoffi'r sain/swn(?!) ond dwi ddim yn gwybod beth yw chwibanogl, a does modd i mi ofyn am un mewn band os na allaf esbonio :wps: Hefyd, ella ai allan a prynnu un er mwyn dysgu chwarae'r Deryn Pur arni! Ond beth yw e?

Wedi bod yn gwglo am llun o un, ond dim lwc...unrhywun yn fama yn gwybod beth yw e? :P

Re: chwibanogl??

PostioPostiwyd: Llun 13 Gor 2009 9:29 pm
gan sian
Whistle yw chwibanogl - ond dydw i ddim yn gwybod ydi hi'n fath arbennig o wisl.

Re: chwibanogl??

PostioPostiwyd: Llun 13 Gor 2009 9:43 pm
gan Hedd Gwynfor

Re: chwibanogl??

PostioPostiwyd: Llun 13 Gor 2009 9:49 pm
gan Hedd Gwynfor
Ond yn y cyd-destun cerddorol, dwi wedi gweld ar wefan Ty Siamas (CYM / ENG) ei fod yn gallu meddwl 'pennywhistle' sef recorder metal!

Delwedd

Re: chwibanogl??

PostioPostiwyd: Maw 14 Gor 2009 9:46 am
gan SerenSiwenna
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ond yn y cyd-destun cerddorol, dwi wedi gweld ar wefan Ty Siamas (CYM / ENG) ei fod yn gallu meddwl 'pennywhistle' sef recorder metal!

Delwedd


Ha, ges i fraw braidd gan weld y peth stem na Hedd!

Aha, hyn yn gwneud synnwyr, mae e'n swndio fel chwiban uchel...doedd gen i ddim syniad fod y pennywhistle yn gwneud swn mor brydferth? Na fod e'n bosib canu cymaint o diwn hefo cyn lleied o tyllau. Gwych, mae na siop cerddoriaeth lawr y ffordd o fan hyn (ganol caer) sy'n gwerthu rhain, a'i mewn a ffrynnu i un amser cinio, dwi'n tybio na fydd hi'n rhu ddrud...wedyn, os na gai fand mewn pryd, nai gael dad i ddysgu'r darn ar gyfer y seremoni a geith o ei ganu!

reit ta, unrhywun yn gwybod lle gai copi o'r deryn pur i'r chwibanogl? :P A'i i gwglo....

Diolch pawb

Re: chwibanogl??

PostioPostiwyd: Llun 27 Gor 2009 3:45 pm
gan JamFeister
S'mae SerenSiwenna, gweler y neges ar weithdai chwibanoglau ym Merthyr viewtopic.php?f=41&t=27713