Gweithdai Chwibanoglau/Alawon Cymreig, Merthyr

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gweithdai Chwibanoglau/Alawon Cymreig, Merthyr

Postiogan JamFeister » Llun 27 Gor 2009 3:43 pm

Fe fydd cyfress o gweithdai Alawon Cymreig yn cael ei chynnal ym Merthyr Tudful, Y Ganolfan Gymraeg, Pontmorlais, CF47 8Ub, pob nos Fawrth 6-8y.h. cychwyn 29ain Medi 09.

Gweithdai rhad ac am ddim gyda'r cyfle i arbrofi gyda'r chwibanogl, pibgorn, pibau Cymreig, bodrhan, gitar.

Os ydych yn ddechreywr pur neu yn cerddor profiadol sydd am dysgu alawon Cymreig, dyma'r gweithdai i chi.

Cysylltwch a'r Ganolfan Gymraeg ar 01685 722176 neu jamie@merthyrtudful.com am ragor o wybodaeth.
nid wyf yn deall eto y modd y rhoi i'm tristwch esmwythad
Rhithffurf defnyddiwr
JamFeister
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 45
Ymunwyd: Iau 02 Tach 2006 4:17 pm
Lleoliad: Merthyr Tudful

Re: Gweithdai Chwibanoglau/Alawon Cymreig, Merthyr

Postiogan SerenSiwenna » Maw 01 Medi 2009 4:19 pm

Duw, hyn yn edrych yn gret, faswn wrth fy modd yn dwad ond ma braidd yn bell o Cilgwri!

Os byddai rhywbeth tebyg dros y penwythnos neu wedi ei leoli yn Llangollen (neu'n agos) fyswn wrth fy modd :P
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Gweithdai Chwibanoglau/Alawon Cymreig, Merthyr

Postiogan cwrwgl » Maw 08 Medi 2009 1:06 pm

Mi fydd yna weithdy diwrnod yn cael ei threfnu gan Clera ar ddydd Sadwrn tua diwedd Ionawr 2010 yn ardal yr Wyddgrug - dim yn rhy bell i ti? Beth wyt ti'n chwarae?
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm

Re: Gweithdai Chwibanoglau/Alawon Cymreig, Merthyr

Postiogan SerenSiwenna » Maw 13 Hyd 2009 11:00 am

Erm, fysa fi'n 'dechreuwr pur' o'r ddisgrifiad uchod, ond dwi di bod yn gwrando ar Cilmeri am 30 mlynedd (ers y cryd) a wnes i priodi yn ddiweddar gan cerdded lawr yr isle i "Y deryn pur" yn cael ei chanu ar y delyn, ac yna y ddawns gyntaf i'r deryn pur ar y ffidil...felly fysa dysgu hyn ar y chwibanogl yn gret :D
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri


Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron