Tudalen 1 o 1

Gweithdai Chwibanoglau/Alawon Cymreig, Merthyr

PostioPostiwyd: Llun 27 Gor 2009 3:43 pm
gan JamFeister
Fe fydd cyfress o gweithdai Alawon Cymreig yn cael ei chynnal ym Merthyr Tudful, Y Ganolfan Gymraeg, Pontmorlais, CF47 8Ub, pob nos Fawrth 6-8y.h. cychwyn 29ain Medi 09.

Gweithdai rhad ac am ddim gyda'r cyfle i arbrofi gyda'r chwibanogl, pibgorn, pibau Cymreig, bodrhan, gitar.

Os ydych yn ddechreywr pur neu yn cerddor profiadol sydd am dysgu alawon Cymreig, dyma'r gweithdai i chi.

Cysylltwch a'r Ganolfan Gymraeg ar 01685 722176 neu jamie@merthyrtudful.com am ragor o wybodaeth.

Re: Gweithdai Chwibanoglau/Alawon Cymreig, Merthyr

PostioPostiwyd: Maw 01 Medi 2009 4:19 pm
gan SerenSiwenna
Duw, hyn yn edrych yn gret, faswn wrth fy modd yn dwad ond ma braidd yn bell o Cilgwri!

Os byddai rhywbeth tebyg dros y penwythnos neu wedi ei leoli yn Llangollen (neu'n agos) fyswn wrth fy modd :P

Re: Gweithdai Chwibanoglau/Alawon Cymreig, Merthyr

PostioPostiwyd: Maw 08 Medi 2009 1:06 pm
gan cwrwgl
Mi fydd yna weithdy diwrnod yn cael ei threfnu gan Clera ar ddydd Sadwrn tua diwedd Ionawr 2010 yn ardal yr Wyddgrug - dim yn rhy bell i ti? Beth wyt ti'n chwarae?

Re: Gweithdai Chwibanoglau/Alawon Cymreig, Merthyr

PostioPostiwyd: Maw 13 Hyd 2009 11:00 am
gan SerenSiwenna
Erm, fysa fi'n 'dechreuwr pur' o'r ddisgrifiad uchod, ond dwi di bod yn gwrando ar Cilmeri am 30 mlynedd (ers y cryd) a wnes i priodi yn ddiweddar gan cerdded lawr yr isle i "Y deryn pur" yn cael ei chanu ar y delyn, ac yna y ddawns gyntaf i'r deryn pur ar y ffidil...felly fysa dysgu hyn ar y chwibanogl yn gret :D