Helo bawb, mae gen i gais anarferol i chi.
Mae un o'm ffrindiau sy'n athro yn trefnu eisteddfod ei ysgol ac mae'n bwriadu i'r corau ganu cân o'r enw 'Chwadods' - mae hyn yn swnio'n ddigon rhyfedd i mi hefyd ond yn ôl ei eglurhad cân am chwïaid ydyw i diwn 'I Saw Mommy Kissing Santa Clause' - felly os ydi rhywun yn gyfarwydd â'r gân, o ble y gellir ei chael, neu'n well fyth yn gwybod y geiriau, allech i roi gwybod i mi?
Dwi ddim yn obeithiol iawn, ond diolch ymlaen llaw.