Tudalen 1 o 1

Chwadods

PostioPostiwyd: Gwe 13 Tach 2009 8:56 am
gan Hogyn o Rachub
Helo bawb, mae gen i gais anarferol i chi.

Mae un o'm ffrindiau sy'n athro yn trefnu eisteddfod ei ysgol ac mae'n bwriadu i'r corau ganu cân o'r enw 'Chwadods' - mae hyn yn swnio'n ddigon rhyfedd i mi hefyd ond yn ôl ei eglurhad cân am chwïaid ydyw i diwn 'I Saw Mommy Kissing Santa Clause' - felly os ydi rhywun yn gyfarwydd â'r gân, o ble y gellir ei chael, neu'n well fyth yn gwybod y geiriau, allech i roi gwybod i mi?

Dwi ddim yn obeithiol iawn, ond diolch ymlaen llaw.

Re: Chwadods

PostioPostiwyd: Gwe 13 Tach 2009 9:24 am
gan Chwadan
"O mi welais i mami'n cusanu Sion Corn..." - gwych.

Methu coelio cyn lleied o bobl sy'n gyfarwydd â'r Chwadods. Mae nhw i gyd yn perthyn i mi wrth gwrs.

Efo Delwyn Sion oeddan nhw'n canu - lej arall.

Oedd gennan ni gaset yn y car tua dechrau'r 90au ond dwnim be ddigwyddodd iddo fo wedyn. Na'i holi.

Re: Chwadods

PostioPostiwyd: Gwe 13 Tach 2009 9:43 am
gan Hedd Gwynfor
Ife'r gân 'la, la, la, la, la ,la ,la... - Rwy'n joio Byw' ti'n chwilio am? Mae 'Cwm Rhyd y Chwadods' yn dod i'r meddwl hefyd... :?

Re: Chwadods

PostioPostiwyd: Gwe 13 Tach 2009 9:58 am
gan Chwadan
Ia - dwi'n meddwl mai 'Joio yng Nghwm Rhyd y Chwadods' oedd enw'r tâp. Dwi'n meddwl fod na gyfres deledu hefyd.

Re: Chwadods

PostioPostiwyd: Gwe 13 Tach 2009 10:03 am
gan Hedd Gwynfor
aha...

CWM-RHYD-Y-CHWADODS
*****************************
JOIO YNG NGHWM-RHYD-Y-CHWADODS (1994) Sain C489G


http://welsh-tapes-for-sale.blogspot.com/

Re: Chwadods

PostioPostiwyd: Gwe 13 Tach 2009 1:14 pm
gan Hogyn o Rachub
Ai hynny ydi'r un gân tybed? Sgen i ddim syniad beth ydi'r gn, byth wedi clwad amdani o'r blaen, felly alla i ddim helpu!