Tudalen 1 o 2

Moliannwn a Bob tai'r felin?

PostioPostiwyd: Llun 29 Maw 2010 2:57 pm
gan SerenSiwenna
Hia pawb,

Dwi wrthi'n sgwennu erthygl i'r Clawdd ac mae rhan ohonno yn son am y geiriau i 'Moliannwn' (nawr llanciau rhoddwn glod, y mae'r gwanwyn wedi dod ayyb) a dwi angen enw y person sgwennodd y geiriau. O ni wastad wedi meddwl mai rhywun o'r enw 'Bob tair felin', dyn o Capel Celyn, oedd wedi ei sgwennu (o ni yn basio hyn ar y ffaith fod nain wedi deud hyn ers stalwm) ond pan eshi i googlo i checkio'r ffaith dyma fi'n gweld fod na 'Bob tai'r felin' (as in 'tai' yn hytrach na ' 3' o rhywbeth) ac nid oeddwn yn gallu cadarnhau mai fo oedd wedi sgwennu y geiriau na ei fod o ardal Capel Celyn? Oes unrhywun yn gwybod am beth wyf yn son neu ydw i jest yn rwdlan fan hyn?

Plis help, diolch,

SerenSiwenna x :D

Re: Moliannwn a Bob tai'r felin?

PostioPostiwyd: Llun 29 Maw 2010 4:12 pm
gan Cardi Bach
Dyma bwt bach sydd yn llyfr caneuon gwerin Mabsant (Y Lolfa £5.95 - ISBN 0-86243-248-0)

Un o ganeuon mwyaf adnabyddus Bob Roberts, Tai'r Felin, Y Bala. Ysgrifennwyd y geiriau gan un o'r ardal honno, Benjamin Thomas, pan oedd yn yr Amerig. Ceir hanes y gan yn llawn yn y llyfr Moliannwn y Bardd o Fethesda gan J. Elwyn Hughes (Llyfrau'r Faner).

Re: Moliannwn a Bob tai'r felin?

PostioPostiwyd: Llun 29 Maw 2010 8:59 pm
gan Josgin
Mae cyfeiriad yn y gan at rhyw aderyn , dwi'n meddwl 'whipper-wheel ' ??
Wnes i erioedd ddeall beth oedd yr hen Bob yn olygu.
Ymddengys mai aderyn o'r U.D. ydi o.
Ydw i'n iawn i feddwl fod Dei Tomos wedi gwneud rhaglen pnawn dydd Sul rhyw ddwy flynedd yn ol gyda Elwyn Hughes ?
Mae'r record adra rhywle - ydi 'Mari fach fy nghariad ' a 'Pobl drws nesaf ' ar yr un disg ?

Re: Moliannwn a Bob tai'r felin?

PostioPostiwyd: Llun 29 Maw 2010 9:45 pm
gan Ar Mada
Ia, Benjamin Thomas o Fethesda (Gwynedd) sgwennodd geiriau y gân tra'n North Pawlet (sir Efrog Newydd, UDA), mae hi'n cael ei chanu i alaw 'The Old Cabin House', alaw Americanaidd. (Ond o le daeth yr alaw i The Old Cabin House???)

Aderyn Americanaidd yw'r wiparwîl - http://en.wikipedia.org/wiki/Whip-poor-will

Dwi'n canu hon yn aml, yn enwedig adeg yma o'r flwyddyn. Sbiwch pwy arall sy'n ei chanu:

http://www.bbc.co.uk/cymru/deorllewin/p ... ai07.shtml

Re: Moliannwn a Bob tai'r felin?

PostioPostiwyd: Llun 29 Maw 2010 10:04 pm
gan Ar Mada
....ac yn Nghwmtirmynach oedd Tai'r Felin

Re: Moliannwn a Bob tai'r felin?

PostioPostiwyd: Llun 05 Ebr 2010 4:28 pm
gan SerenSiwenna
Diddorol iawn, ew da chi'n criw wybodus iawn fan hyn tydach :P

Dwi di ail-edrych ar fy llyfr caneuon Gymraeg (o fama daeth y pembleth yn y lle cyntaf gan mai ddim Bob oedd yn cael y clod am sgwennu'r geiriau) a dyma mae'n ei ddeud o dan y can:

"Dyma un o ganeuon adnebyddus Bob Roberts, Tai'r Felin, Y Bala. Ysgrifennwyd y geiriau gan un arall o Bellyn, Benjamin Thomas, ar don a glywodd pan oedd yn ymweld a'r Unol Daleithiau." (Mae'r fersiwn Saesneg yn deud "Song made popular by")

Felly, i mi gael fy ffeithiau'n stret:

1. Dwi'n cymryd fod Bob tai'r felin (heb dashes) yn canwr/ perfformwr enwog yng Nghymru nol yn y 20-30au?
2. Fod Bob o ardal Cwmtirmynach, Y Bala, sydd rhyw 7 milltir (yn ol google) o Capel Celyn? (oes yna tai felin ene neu jest enw lle oedd o?)
3. Sgwennwyd y geiriau fodd bynnag gan Benjamin Thomas o Bethesda, tra oedd e ar ei wyliau/ yn gweithio draw yn North Pawlet, Sir Efrog Newydd...a rhoddodd e nhw i gyfeiliant alaw americanaidd 'The Old Cabin House'? Oedd Benjamin yn canu neu yn enwog mewn rhyw ffordd arall?


Gyda llaw, wrth fy modd cael gwybod mai clywed aderyn americanaidd oedd e'n son am yn y gan...whip-poor-will...wiparwil, diddorol tu hwnt! :winc:

Re: Moliannwn a Bob tai'r felin?

PostioPostiwyd: Llun 05 Ebr 2010 6:17 pm
gan medwyn
Fferm yw Tai'r Felin ac mae i'w wled ar Google Maps yma - http://maps.google.co.uk/maps?f=q&source=s_q&hl=en&q=Tai%27r+Felin,+Fron+Goch,+Bala,+Gwynedd+LL23+7NS,+United+Kingdom&sll=53.800651,-4.064941&sspn=12.218001,39.506836&ie=UTF8&cd=7&geocode=FZPYJwMdFqDI_w&split=0&hq=&hnear=Tai%27r+Felin,+Fron+Goch,+Bala,+Gwynedd+LL23+7NS,+United+Kingdom&ll=52.943699,-3.627677&spn=0.005198,0.038581&z=15&layer=c&cbll=52.943701,-3.627668&panoid=BLJSVXRxQXjT_zTc5rmetA&cbp=12,325.35,,0,12.2 - mae o yn eithaf agos i bentref Frongoch.

'Dw'i hefyd wedi dod ar draws llun o Robert Roberts Tai'r Felin ar ddiwrnod cneifio - yma: http://www.cronfa.com/index.php?action=item&previous_action=search&lang=cy&itemid=ARD00108.

Dwi'n cymryd mai'r un Bob ydi o - mae yn cyd-fynd hefo'r cyfnod oedd gennych chi ta beth.

'Roeddwn i'n meddwl fy hun, falle ei fod yn perfformio mewn cyfnod hwyrach fodd bynnag- hyn ar sail darlith goffa enwog gan Robin Williams (1923-2004 - aelod hefyd o Triawd y Coleg) a ryddhawyd ar ffurf LP - Y Tri Bob (Welsh Teldisc TLP 617) - mae yn recordiad digon difyr ond mae y recordiad yn dyddio o 1965 ac ar ffurf atgofion - fel tase Robin Williams yno ar y pryd - sydd yn gneud i mi feddwl for yr atgofion yma or 40au/50au. Yn ol cefn yr LP, "Pan deledwyd y ddarlith hon gan y BBC, bu'r adwaith yn syfrdanol. Da o beth felly yw ei chael ar gof a chadw". Mae llun o Bob Roberts ar y clawr hefyd, ac mae'n edrych yno fel tase fo yn ei 60au hwyr, tra bod Robin Williams yn edrych tua 40. Falle, felly fod yn perfformio am gyfnod hirach na jest 20au/30au - falle 20au/50au?

O ia, ame Y Tri Bob hefyd ar gael fel llyfr: http://www.amazon.co.uk/gp/product/0850880874?ie=UTF8&tag=japalesslond-21&linkCode=as2&camp=1634&creative=19450&creativeASIN=0850880874

Re: Moliannwn a Bob tai'r felin?

PostioPostiwyd: Llun 05 Ebr 2010 6:31 pm
gan medwyn
Mae llun arall o Bob Roberts yma http://www.gtj.org.uk/cy/small/item/GTJ17376//page/1/ ar glawr pamffled o'r 50au gan Plaid Cymru yn gwrthwynebu boddi Tryweryn.

Re: Moliannwn a Bob tai'r felin?

PostioPostiwyd: Llun 05 Ebr 2010 10:32 pm
gan Josgin
Mi oedd hon yn ffefryn pan yr oeddwn i yn y coleg. ' Mae arwyddion dwyieithog o'n blaenau ! '
Fersiwn pur anllad oedd yna o ' Ffw la la' . - fel y gallwch ddychmygu.

Re: Moliannwn a Bob tai'r felin?

PostioPostiwyd: Iau 08 Ebr 2010 2:04 pm
gan SerenSiwenna
medwyn a ddywedodd:Mae llun arall o Bob Roberts yma http://www.gtj.org.uk/cy/small/item/GTJ17376//page/1/ ar glawr pamffled o'r 50au gan Plaid Cymru yn gwrthwynebu boddi Tryweryn.


Ew na chdi wybodaeth da ynte! Ia, o ni yn cofio nain yn deud ers stalwm mai 'Bob tai'r felin' oedd yn canu Moliannwn a'i fod o yn un o ardal Trwyeryn...dyna pam o ni yn tybio y cyfnod i fod rhywle yn y 20-30au (pan oedd nain yn ifainc ac ella yn mynd i ddownsus a gweld band ynde)...ond wrth gwrs, os oedd e'n rhan o ymgyrch Tryweryn fysa hynna'n gwneud synnwyr i Nain gofio a cysylltu y detail ene.

Braf cael gweld y pamffled wedi ei preserfio fel na ar y we :-)