gan Hazel » Llun 25 Hyd 2010 1:18 pm
Mae hon gan William Aubrey am Gwio Bach, dw i'n meddwl. (Nodyn: "f" yw'r "v")
Elfin deg, taw a'th wylo!
Na çabled neb yr eiddo:
Ni wna les drwg obeithio.
Ni wyl dyn dim a'i portho;
Ni bydd eoeg gweddi Cynllo,
Ni thyr Duw a'r addawo:
Ni çaed yn ngored Wyddno
Erioed cystal â heno.
Elfin deg, syç dy ddeurudd!
Ni weryd bod yn rhybrudd;
Ni wna les gormodd cystudd.
Nac ammhau wyrthiau Dovydd:
Cyd wyv byçan wyv gelvydd.
O voroedd, ac o vynydd,
Ac o eigion avonydd,
Avona Duw dda i ddedwydd.
Elfin gynneddvau diddan,
Anwraidd yw dy amcan,
Ni raid iti vawr gwynvan,
Gwell Duw no drwg ddarogan.
Cyd bwyv eiddil a byçan
Ar nod garw verw mor dylan,
Mi â wnav yn nydd cyvrdan
It' well no thriçan maran.
Elfin gynneddvau hynod,
Na sôr er dy gafaelod,
Cyd bwyv wân âr lawr vy nghod,
Mae rhinwedd âr vy nhavod,
Tra byddwyv i'th gyvragod;
Ni raid it' ddirvawr ovnod;
Trwy gofa enwau'r Drindod,
Ni ddiçon neb dy orvod.
Hazel
Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)