Seminarau cerddoriaeth yn ngwyliau Llangollen a Gardd Goll

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Seminarau cerddoriaeth yn ngwyliau Llangollen a Gardd Goll

Postiogan SefydliadCerddoriaethGym » Mer 13 Gor 2011 12:52 pm

SCG yng Ngwyl Llangollen a Gwyl Gardd Goll

Bydd Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn ymweld a Llangollen a’r Faenol, mewn cydweithrediad a Ffocws Cymru a Gwyl Gardd Goll, a’n cyflwyno seminarau ar gyfer chwi ddarpar a phresennol gerddorion, hyrwyddwyr a labeli. Cofiwch gofrestru eich lle ar hello@welshmusicfoundation.com neu 02920 494110

Yng Ngŵyl Llangollen….

Iau 21ain Gorffennaf
Ystafell Henry Robertson, Gorsaf Reilffordd Llangollen
5.00pm - 6.00pm

Sgwrs gyda...Korda Marshall, Infectious Music
Ar ôl llwyddiant yn cynorthwyo pobl fel Madonna, Green Day, Muse, Eurythmics a The Red Hot Chilli Peppers, mae Korda hefyd yn cael clod am arwyddo artistiaid fel Ash, Pop Will Eat Itself, The Darkness, Gnarls Barkley, The Foals, The Enemy, Pendulum a Seasick Steve.
Bydd Stuart Worthington (Cyd-reolwr Happy Mondays ac o’r Music Manager Forum) yn sgwrsio gyda Korda, yn trafod ei yrfa a’i brofiadau ac yn rhannu stori neu ddwy.
Mae’r digwyddiad hwn i gerddorion, labeli, rheolwyr a hyrwyddwyr yng Nghymru ac mewn lleoliad eithaf anarferol, sef Gorsaf Reilffordd Stêm Llangollen

6.15pm - 7.15pm
Cyflwyniad i’r Diwydiant Cerddoriaeth Broffesiynol

Yn trafod creu cerddoriaeth, chwarae’n fyw, cyfleoedd sync, cyfryngau cymdeithasol, cael eich clywed ar y radio a chasglu breindaliadau yn ystod y drafodaeth banel arbennig hon. Darganfyddwch sut i ddechrau yn y diwydiant neu sut i gael syniadau ar gyfer cymryd y camau nesaf, yn arbennig cerddor sy’n rhyddhau ei gerddoriaeth ei hun, label, rheolwr, cyfansoddwr neu hyrwyddwr.

Y Panel:
Korda Marshall - Infectious Music
Neil Cocker - Dizzyjam
Dave Holmes - Covert PR
John Hywel Morris - PRS
Gyda Stuart Worthington yn cadeirio



Yng Ngwyl Gardd Goll....

Gwener 21ain Gorffennaf
Y Beudy, Ystad y Faenol, Bangor


1yp – 2yp
Cynhadledd 1: Gweithdy PRS ar ICE

Mae PRS yn newid i system newydd o gofrestru caneuon.
John Hywel Morris PRS fydd yn cynnal y gweithdy hwn fel y gall aelodau ddysgu am ICE, y basdata rhyngwladol newydd `International Copyright Enterprise`, a’i oblygiadau i aelodau PRS.
Bydd yn esbonio pam fod PRS yn ymuno ac ICE a’r ffordd y bydd y basdata yn gweithio. Bydd yn canolbwyntio hefyd ar fanylion y modd mae’n delio a chofrestru hawlfreintiau Cymraeg, a bydd cyfle i aelodau drafod yn uniongyrchol a staff PRS sy’n gweithio gydag ICE pob dydd.
Mwy o fanylion am fasdata ICE yma: http://www.prsformusic.com
Bydd y seminar hwn yn Gymraeg, gydag offer cyfieithu ar gael.

2yp – 2.45yp
Bwffe cinio am ddim


2.45yp – 3.45yp
Cynhadledd 2: Gwneud Arian o’ch Cerddoriaeth

Yn y sesiwn hon byddem yn archwilio ffrydiau refeniw newydd a thrafod sut a phryd i ryddhau eich cerddoriaeth, rhoi awgrymiadau ar gyfer sut i gael eich cerddoriaeth ar y sgrîn fawr a’r teledu a darganfod cyfleoedd gigs, gyda phanel egnïol a llawn gwybodaeth yn archwilio’r posibiliadau o wneud arian o’ch cerddoriaeth.
Y Panel:
Stuart Worthington (Cadeirio) : Music Managers Forum
Phil Rose : Sentric Music
Steve Bush : Producer: Stereophonics, Writer: Corrine Bailey Rae, Composer
Aimee-Jade Hayes : See Monkey Do Monkey, Miniature Music Press
Adam Walton: BBC Radio Wales

4yp – 5yp
Cynhadledd 3: Eich cerddoriaeth tros ffiniau

Sesiwn awr yn trafod sut i fynd â’ch cerddoriaeth y tu hwnt i’r sîn leol. Ymhlith pethau eraill bydd panel arbenigol yn trafod cynyddu ‘cynnwrf’, darganfod cefnogwyr a’r cyfleoedd cynyddol y gall technoleg a chyfryngau newydd eu cynnig. Hefyd, darganfyddwch fwy am sut y gallech elwa o fentrau sy’n gallu helpu i hyrwyddo eich cerddoriaeth yn rhyngwladol.
Y Panel:
Stuart Worthington (Cadeirio) : Music Managers Forum
Simon Duffy: Tri-Tone Consultancy
John Rostron : Sŵn/Plug Two/A.P.E
Dafydd Roberts : Recordiau Sain

Llefydd cyfyngedig felly cofrestrwch eich lle am faint bynnag o'r seminarau drwy ebostio hello@welshmusicfoundation.com neu ffonio 02920 494110.
SefydliadCerddoriaethGym
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 82
Ymunwyd: Maw 03 Gor 2007 12:50 pm
Lleoliad: Cymru

Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron