Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig Yn Galeri Rhagfyr 16

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig Yn Galeri Rhagfyr 16

Postiogan SefydliadCerddoriaethGym » Llun 12 Rhag 2011 4:55 pm



Cyfarfodydd Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig Yn Galeri, Caernarfon Gwener Rhagfyr 16



Cyfarfod Womex 13

10-12.30


(yn cynnwys perfformiad gan Gwyneth Glyn)


Mae partneriaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a SCG, sef Cerdd Cymru : Wales yn rhagweld bydd WOMEX yn ysgogi a chyflymu datblygiadau yn y sector cerddoriaeth, y sector diwylliannol a chysylltiadau â busnes.

Rydym yn cynnal dau fforwm i roi’r cyfle i gerddorion, mentrau cerddoriaeth, sefydliadau cerddoriaeth a busnesau lleol siapio WOMEX 2013 a mynegi pa gyfraniad yr hoffent ei wneud wrth wireddu adeiladu ar y sylfaen hon i greu rhywbeth sy’n treiddio ymhellach, ar draws gweddill Caerdydd, drwy’r sector cerddoriaeth, ac sy’n cael ei deimlo ledled Cymru. Byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth am yr hyn i’w ddisgwyl, yn manylu ar y buddianau posib i chi, a'n agor y drafodaeth i'r llawr.

Mae’r sesiynau hyn yn agored i unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan yn WOMEX 13.

Cofrestrwch ar: http://womex13cardiff.eventbrite.co.uk neu ebostiwch hefin@sefydliadcerddoriaethgymreig.com




Cyfarfod Rhanddeiliaid
...yn cynnwys Ymgynghoriad Cronfa Datblygu’r Diwydiant Cerddoriaeth


1.30 i 3.00pm


Os ydych yn gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth neu’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd, neu efallai eich bod eisiau darganfod mwy am weithgareddau Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yna mae'r digwyddiad yma i chi.

Yma, yn ogystal a’r newyddion diweddaraf gan SCG, byddwn yn datganu manylion am gronfa newydd Cyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu’r diwydiant cerddoriaeth gyfoes a byddwn yn derbyn eich safbwyntiau ar sut y gallai’r arian hwn fod o fudd i’ch busnes, eich datblygiad a’ch cyfleoedd cerddorol. Mae’r arian hwn yn sylweddol ac yna i gynnig cymorth i fusnesi, cyfansoddwyr a cherddorion sy’n ymwneud a’r diwydiant cerddoriaeth gyfoes dros y dair blynedd nesaf.

Cofrestrwch: http://wmfstakeholdercaernarfoon.eventbrite.co.uk neu ebostiwch hefin@sefydliadcerddoriaethgymreig.com

Darperir cinio rhwng y ddau gyfarfod.
SefydliadCerddoriaethGym
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 82
Ymunwyd: Maw 03 Gor 2007 12:50 pm
Lleoliad: Cymru

Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai