Seminarau Womex

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Seminarau Womex

Postiogan SefydliadCerddoriaethGym » Gwe 07 Medi 2012 1:59 pm

Cyfarfodydd Rhanddeiliaid WOMEX 13 - GAIR YNGLŶN Â WOMEX

WOMEX 2013 yw’r cyfle gorau un a gafodd Cymru i arddangos ein cyfoeth o dalent cerddoriaeth byd yn rhyngwladol; fodd bynnag, dylai manteision WOMEX 2013 ymestyn y tu hwnt i’r digwyddiad ei hun. Mae hwn yn gyfle i gataleiddio datblygiad ein hartistiaid a’n diwydiant, fel y bydd y fantais o gynnal WOMEX yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2013 i’w gweld ymhen pum neu hyd yn oed ddeng mlynedd. Gyda 14 mis i fynd, mae sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn ymuno i baratoi at y digwyddiad ac i roi camau mewn lle i fanteisio i’r eithaf ar y farchnad cerddoriaeth fyd ryngwladol hon..

Ar 12 a 13 o Fedi eleni, bydd SCG yn cynnal digwyddiadau â ffocws WOMEX yng ngogledd a de Cymru yn y bwriad o groesawu WOMEX yng Nghymru yn 2013.

Dydd Mercher 12fed Medi 2012, 9.30am – 3.00pm
Motorpoint Arena, Mary Ann Street, Caerdydd, CF10 2EQ

Dydd Iau 13eg Medi 2012, 11am - 4.30pm
Galeri, Doc Fictoria, Caernarfon LL55 1SQ

Os ydych o ddifrif ynglŷn â mynd â’ch cerddoriaeth i WOMEX, mae’r rhain yn ddigwyddiadau allweddol y gallwch fynd iddynt i gael cyngor a gwybodaeth, yn cynnwys:

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl yn WOMEX

Sut i fanteisio’n llawn ar gyfleoedd y farchnad gerddoriaeth ryngwladol hon

Cymorth ariannol i ddatblygu cynhyrchion a mynychu’r digwyddiad hwn a rhai eraill

Trwyddedu a bod mewn sefyllfa lle’r ydych yn hollol barod i allforio

Hefyd, byddwn yn dweud wrthych am y mentrau datblygu sgiliau sy’n cael eu trefnu drwy’r rhaglen gymorth a sut y gallwch chi, neu eich artistiaid fanteisio arnynt.

Mae’r sesiynau DI-DÂL hyn yn agored i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan yn WOMEX 13 a’i etifeddiaeth, er bod nifer y lleoedd yn gyfyngedig a bydd cinio yn cael ei ddarparu.

I gofrestru ebostiwch becci@welshmusicfoundation.com
SefydliadCerddoriaethGym
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 82
Ymunwyd: Maw 03 Gor 2007 12:50 pm
Lleoliad: Cymru

Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai