Dod yn aelod o Fwrdd Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dod yn aelod o Fwrdd Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig

Postiogan SefydliadCerddoriaethGym » Mer 09 Ebr 2014 1:00 pm

Mae pobl sy’n gweithio ym maes cerddoriaeth yng Nghymru yn allweddol i waith Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig. Dyma eich cyfle chi i ddylanwadu ar ein gwaith…

Cafodd Bryn Fôn ei ethol fel aelod o’r bwrdd rhanddeiliaid ac mae ei gyfnod dwy flynedd ar y bwrdd nawr wedi dod i ben. Ar ran yr holl staff a bwrdd SCG hoffem ddiolch i Bryn am ei amser ar ein bwrdd cyfarwyddwyr.

Nawr, mae SCG yn chwilio Cyfarwyddydd Rhanddeiliaid i ymuno â’n bwrdd. Os ydych chi’n gweithio i fenter neu os ydych yn fasnachwr yn gweithio ym maes cerddoriaeth yng Nghymru gallwch gynnig eich hunan fel ymgeisydd. Yna mae gan bob menter a masnachwr cerddoriaeth Cymru yr hawl i bleidleisio i bwy bynnag yr hoffent eu gweld yn eu cynrychioli. Mae un lle ar gael.

Mae Bwrdd SCG yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan y bobl yr ydym yn gweithio â hwy i sicrhau fod darpariaeth SCG yn cyfateb i ddymuniadau ac anghenion y sector.
Mae bod yn aelod o’r bwrdd yn caniatau ichi godi materion pwysig sy’n llunio gwaith SCG. Gofynnir eich barn hefyd ar nifer o syniadau a chynigion sy’n deillio o gynllunio strategol, ar lefel weithredol ac yn olaf gan y sector cerddoriaeth. Byddai eich ymrwymiad yn golygu mynychu cyfarfodydd bwrdd chwarterol.
Os hoffech gynnig eich enw fel ymgeisydd, cael rhagor o wybodaeth neu sicrhau eich bod yn gallu pleidleisio, cysylltwch â becci@welshmusicfoundation.com
Dyddiad cau yw Dydd Llun Ebrill yr 14ain 2014.
SefydliadCerddoriaethGym
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 82
Ymunwyd: Maw 03 Gor 2007 12:50 pm
Lleoliad: Cymru

Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron