Tudalen 1 o 2

Cam 3 - Prynu Meddalwedd a Meic

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2003 3:46 pm
gan Dielw
Os na rywun yn gwbod os ydi EJay Hip Hop 2 yn raglen dda? Dwi ar fin ei brynu am ffeifar o E-bay felly dwi'n cymryd bod o ddim. O wel.

Hefyd dwi angen meic a dwi ar goll yn llwyr yn y geirie mawr fel uni-directional a stwff felly - unrhyw recommendations?

Gyd dwi angen di miwsic, geiriau a band, a... helo! - slot ar Sesiwn Hwyr i fi. Er bod ddim angen o leia 2 o'r 3 o be dwi di weld...

Re: Cam 3 - Prynu Meddalwedd a Meic

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2003 3:55 pm
gan Mihangel Macintosh
Dielw a ddywedodd:Os na rywun yn gwbod os ydi EJay Hip Hop 2 yn raglen dda? Dwi ar fin ei brynu am ffeifar o E-bay felly dwi'n cymryd bod o ddim.


Nes i brynnu yr un cyntaf - oedd na rhyw ddwsin o ffeils awdio da nes i ddefnyddio, ond heblaw ni ma fe braidd yn gachu.


Dielw a ddywedodd:Gyd dwi angen di miwsic, geiriau a band, a... helo! - slot ar Sesiwn Hwyr i fi. Er bod ddim angen o leia 2 o'r 3 o be dwi di weld...


Y gyfres gyfredol o Seshwn Hwyr yw'r un olaf erioed. Fydd $4C ddim yn comisynnu cyfres arall, byth eto.

Re: Cam 3 - Prynu Meddalwedd a Meic

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 3:36 pm
gan gwyneb wuw
[quote="Dielw"]dwi angen meic a dwi ar goll yn llwyr yn y geirie mawr fel uni-directional a stwff felly - unrhyw recommendations?
Gyd dwi angen di miwsic, geiriau a band...[/quote]

Wyt ti hefo PS1 neu PS2? Mi alli di gael program ar y PS1 or enw "music2000" sydd yn wych i ddechreuwyr//ffanatigs, ac mond yn costio tua £6-8!!!!!....
Hefyd mae na "music3000" ar y PS2 sydd yn dod hefo meic a sampler sydd yn costio tua £35 i gyd.....
POB LWC!! :winc:

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 3:49 pm
gan Gruff Goch
Pa fath o gerddoriaeth wyt ti eisiau ei wneud? Edrycha ar Fruityloops os mai cerddoriaeth fel cerddoriaeth ddawns hoffet ti wneud. Os wyt ti am recordio lot o ganu/rapio/offerynau yna mae Magix Music Studio 2003 neu 2004 yn raglenni da am y pris.

O ran meic, cer am Shure SM58 (tua £70 o http://www.digital-village.com ). Dyna ydi'r 'industry standard', ac mi wneith o bara i ti am amser maith.

Re: Cam 3 - Prynu Meddalwedd a Meic

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 6:40 pm
gan Ramirez
gwyneb wuw a ddywedodd: Wyt ti hefo PS1 neu PS2? Mi alli di gael program ar y PS1 or enw "music2000" sydd yn wych i ddechreuwyr//ffanatigs, ac mond yn costio tua £6-8!!!!!....
Hefyd mae na "music3000" ar y PS2 sydd yn dod hefo meic a sampler sydd yn costio tua £35 i gyd.....
POB LWC!! :winc:


Music 2000 yn shite- ma'n reit impressive i feddwl bod o'n cael ei redeg ar Playstation, ond fel rhaglen neud miwsig, mae'n crap- dio ddim yn gadal lot o le i greadigrwydd na gwreiddioldeb, a ma dod fyny efo riffs dy hun yn uffernol o fiddly, a jysd ddim cystal a iwsho MIDI neu chwara rwbath ar offeryn. Dwi dal i iwsho fo fel drum machine, ond dim arall. Dio ddim yn cymharu efo'r stwff elli di gal efo PC. Jysd gem / novelty program dio fwy na dim.

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 10:07 am
gan Dielw
Diolch yn fawr am yr help! Band rap fydd y canlyniad gobeithio. Ond os dwi'n neud rwbeth fo'r playstation, Pro Evolution fydd o.

Rociwch ymlaen!

PostioPostiwyd: Gwe 14 Tach 2003 11:20 am
gan ffwrchamotobeics
Cubase SX 2..http://hot.ee/sx2

a Nuendo 2..htfp://wxw.hot.ee/n201/ i'r hip hopars !

Ma'r rhaglenni'n hiwj, so downlodiwch yn gwaith/coleg! :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 14 Tach 2003 11:38 am
gan ffwrchamotobeics
O ie! a Logic Audio 5..http://www.mp3clubpro.com/english/download_en.asp

Dim linc i meics ddo :crio:

PostioPostiwyd: Gwe 14 Tach 2003 12:25 pm
gan Rhys Llwyd
ffwrchamotobeics a ddywedodd:Cubase SX 2..http://hot.ee/sx2

a Nuendo 2..htfp://wxw.hot.ee/n201/ i'r hip hopars !

Ma'r rhaglenni'n hiwj, so downlodiwch yn gwaith/coleg! :winc:


neu adra os wes ginochi broadband :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 14 Tach 2003 2:37 pm
gan ffwrchamotobeics
Wel ie, ti'n llygad dy le boi! 8)