Dwi'm yn gwybod be i feddwl o ran y cyhuddiadau am blant - ond mae hi'n weddol amlwg, dwi'n meddwl, fod y boi ddim cweit llawn llathen. Ma'r syrjyri dibendraw yma yn ffiaidd - oes raid i'w wyneb o gwympo ffwrdd cyn iddo fo stopio? a dwi'm yn meddwl ei fod o mewn unrhyw gyflwr i wynebu y byd mawr cas yma bellach.
I ddeud y gwir, y peth sy'n fy ngwylltio i fwya amdano fo ydi fod ei ffans o yn cau wynebu realiti amdano fo. Mi oedd yna hogan yn 'rysgol efo fi oedd yn taeru du yn wyn ma 'skin disease' sy genno fo. Yeah, right. Mae ffans rhan fwyaf o bobl eraill yn fwy rhesymol - dwi'n hoffi REM, ond di hynny ddim yn stopio fi feddwl fod Michael Stipe yn dwat pretentious.