Tudalen 1 o 1

Meic i PC

PostioPostiwyd: Iau 27 Tach 2003 12:34 pm
gan Dielw
Sut dach chi'n cysylltu meic (connector XMR neu rwbeth) i PC soundcard crap (miniplug mic input). Dwi methu ffindio neb sy'n neud ceblau fel yma.

Ta very much

PostioPostiwyd: Iau 27 Tach 2003 12:42 pm
gan Gruff Goch
Pryna cebl XLR (benywaidd) i 1/4" jack (cael ei alw'n TRS weithiau- r'un peth a cebl gitâr) a sticio adapter 1/4" jack i mini-jack ar hwnna (eeli di gal rhain yn Dixons neu siop debyg am ychydig bunnoedd). Dyna'r ateb 'off the shelf' hawdd, ond dydi defnyddio adapter ddim yn berffaith chwaith. Efallai fod cebl pwrpasol ar gael o safle Studio Spares. Gwneud dy gebl dy hun ydi'r dewis arall...

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2003 4:23 pm
gan Dielw
Aaaa diolch Gruff! Mae o chydig yn dawel felly bydd angen ryw fath o pre amp ond ma'n iawn am y tro. Mae'r Shure mic yn wych.

PostioPostiwyd: Sul 07 Rhag 2003 4:22 pm
gan TXXI
Ai hwn yw'r hynod dielw a fydd yn perfformio yn yr eisteddfod y flwyddyn hon - mae eich rhymes yn DEW! 50cent cymru - dylwn ei alw yn ddau ddime (ddim i'w gamddeall fel da i ddim tho!)

Mae'r band newydd hip-hop/rap arbrofol yma yn gaddo bod yn fawr iawn - ac oes angen drummer - dwi'n meddwl bo stuart cable wedi derbyn ei p45 erbyn hyn!

PostioPostiwyd: Llun 08 Rhag 2003 3:16 pm
gan Dielw
Diolch TXXI (dwi'n meddwl), er mai dim ond freestyle yn y pybs byddi di wedi clywed hyd yn hyn.

Ewch i
<a href="http://uk.geocities.com/dielwjones/index.htm">Dielw</a> er mwyn clywed sampl cynnar o waith Dielw.