gan neil wyn » Sad 06 Rhag 2003 10:00 am
Ie, dwi wedi prynu ei cd newydd. Doedd 'na ddim syniad gen i be' i ddisgwyl, dim ond wedi clywed clip bach ohoni ar y teledu.
Dwi'n credu mae'r ferch yn ddawnus iawn, mae 'na ychydig o draciau s'yn swnio fel 'demos' yna, ychydig arall yn swnio jyst golew ond mae 'na rhai ohonyn yn gwych, yn fy mharn i beth bynnag, sef 'Y lle', 'Golau yn y gwyll', 'Fin Nos'. Yn sicr mae'r cynhyrchiad yn dipyn bach canol y ffordd i mi yn llefydd, dwi'n mwynhau hi canu baledi yn well a dweud y gwir, ond mae Meinir yn sgwennu cân a hanner o bryd i bryd.
Pwy y dialw swytchodd uh golayada i ffw£*=..