Erthygl yn yr Observer ddydd Sul.
Mae hyn yn peri pryder i fi. Rwy'n llwytho cerddoriaeth oddi ar y we ar brydiau, ond rwy' ond yn defnyddio Kazaa neu bethau tebyg fel cyflwyniad i gerddoriaeth, ac wedyn yn mynd i brynu albyms o siop (Spiller's fel arfer). Dyw hi ddim yn ymddangos fod pobl eraill yn gwneud hynny, ac yn prynu cerddoriaeth oddi ar y we neu'n llwytho popeth maen nhw moyn oddi ar y we. A oes modd sicrhau dyfodol y siopau bach rwy'n eu caru gymaint, neu a fydd pobl fel fi'n gorfod cydymffurfio a'r trend newydd o brynu/llwytho i lawr ar y we?