Marwolaeth siopau recordiau

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Marwolaeth siopau recordiau

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 09 Rhag 2003 11:49 am

Erthygl yn yr Observer ddydd Sul.

Mae hyn yn peri pryder i fi. Rwy'n llwytho cerddoriaeth oddi ar y we ar brydiau, ond rwy' ond yn defnyddio Kazaa neu bethau tebyg fel cyflwyniad i gerddoriaeth, ac wedyn yn mynd i brynu albyms o siop (Spiller's fel arfer). Dyw hi ddim yn ymddangos fod pobl eraill yn gwneud hynny, ac yn prynu cerddoriaeth oddi ar y we neu'n llwytho popeth maen nhw moyn oddi ar y we. A oes modd sicrhau dyfodol y siopau bach rwy'n eu caru gymaint, neu a fydd pobl fel fi'n gorfod cydymffurfio a'r trend newydd o brynu/llwytho i lawr ar y we?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Di-Angen » Maw 09 Rhag 2003 12:46 pm

Dwi'n dadllwytho stwff hefyd (fel arfer caneuon unigol ond albums llawn ar adegau). Mae yna wahaniaeth massive, though, rhwng cael album ar mp3 yn eich hard drive (neu hyd yn oed ar CD-R) a cael y vinyl/CD iawn gyda'r holl artwork/notes.
Get out of your fucking seat and jam down to the faggot rhythm of that crackrocksteady beat
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan Paned neu Peint » Maw 09 Rhag 2003 2:26 pm

Dwi'n cytuno a Di-Angen. Roedd na erthygl yn un o'r papurau yn ddiweddar yn cwyno am farwolaeth 'our price' ac yn y blaen, ond naeth o ddim ystyried yr high fidelity type sy'n chwilio am eu 'deleted smiths b sides' ag ati - allwch chi ddim cael vinyl pink ar mp3! Ac mae llefydd fel Spillers yn cynnig rhywbeth gwahannol i our prices y byd ma - staff sy'n wybodus (a rhai ohonynt yn siarad cymraeg!), rhan o'r 'scene' lleol (hysbysebu a cydweithio a bandiau, nosweithiau, labeli caerdydd/cymru), barod i siarad a'i cwsmeriaid ac argymell stwff fydde o ddiddordeb falle. Dwi di ffeindio mod i'n mynd i mwy o gigs ac yn prynu mwy o CDs ers dechrau defnyddio Kazaa... ac os mae hwn yn golygu bod pobol fel elton john yn llai cyfoethog gorau fyth. Er fod hwna'n ddadl arall falle...
Confused, would we?
Paned neu Peint
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 44
Ymunwyd: Mer 12 Tach 2003 1:06 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 09 Rhag 2003 2:31 pm

Wy'n gweld bod y rhyngrwyd yn cael ei gamddefnyddio. Tra dylai pobl fod yn defnyddio meddalwedd ar gyfer llwytho cerddoriaeth i lawr fel rhywbeth rhagarweiniol i gerddoriaeth dda, maen nhw'n cymryd popeth, heb ystyried yr artistiaid sydd wedi creu'r gerddoriaeth. A hefyd, ar bwynt gwahanol, chi'n cael cwmniau mawr fel Amazon, CD Wow ac ati sy'n gallu cynnig cerddoriaeth am brisiau rhatach, ac felly'n dwyn busnes y siopau recordiau da. I fi, does dim byd gwell na mynd i Spiller's i chwilio am gerddoriaeth a siarad gyda'r ferch giwt (chi'n gwbod pwy yw hi, bobl Caerdydd :D )
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Barbarella » Maw 09 Rhag 2003 3:24 pm

Mae na ddau dadl gwahanol fan hyn: cael gafael ar gerddoriaeth heb dalu amdano, a chael gafael ar gerddoriaeth mewn llefydd ar wahan i siop recordiau bach.

Dyw'r ddau ddim yr un peth o rheidrwydd! Mae Apple bellach wedi gwerthu 20 miliwn o draciau trwy siop arlein iTunes mewn 7 mis -- a hynny'n hollol gyfreithlon, gyda'r arian dyledus yn mynd i'r artistiaid. Ond ma hynny dal yn mynd i effeithio ar siopau bach, yntydi?

Lleiafrif bach iawn o brynwyr recordiau sydd eisiau fersiwn feinyl pinc o rywbeth (o'i gymharu gyda'r miloedd sy'n prynu'r senglau yn y top 40), felly, ie, falle bydd y siopau bach ma'n cau.

Ond wedyn, dwi byth wedi deall pam fod y rhai sy'n mynnu bod nhw'n "ddifrifol" am eu cerddoriaeth yn poeni gymaint am y pecyn ma'r blincin peth yn dod ynddo... "dwi'n hoffi teimlad vinyl yn well", "dwi eisiau'r collector's edition cd-set gyda'r cerdiau post", "rhaid i fi gael y fersiwn 10-modfedd picture disc hecsagon" ayyb. Os chi wirioneddol yn caru'r gerddoriaeth gymaint, oes ots bod e'n dod ar CD, MP3, dros y we, ar fanana, beth bynnag...?!
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 09 Rhag 2003 3:38 pm

Y pwynt yw ei bod hi'n ymddangos i fi, gyda dyfodiad y we, bod cwmniau mawr yn gwneud elw ar draul cwmniau llai ac artistiaid. Pam fyddai rhywun am dalu am draciau oddi ar Apple neu Napster, pan allan nhw gael pethau am ddim, heb unrhyw arian yn mynd at yr artistiaid? Pam fyddai rhywun am dalu £10/£11 am CD, pan allan nhw gael yr un CD ar Amazon am £8.49? Mae hyn ynghylch amddiffyn busnesau bach rhag dylanwad busnesau mawr, ac ar hyn o bryd sai'n gweld unrhyw fesurau'n cael eu cymryd i wneud hynny.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn


Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron