Mashwr bod pawb dan rhaul di clywad am hwn ers pan oedd Noa'n hwylio'i arch, ond dwi di gwirioni'n lân efo'r peth...
Da chi rioed di clywad cân ar radio/deledu a bron â marw isio gwbod be di'r trac? Na phoener oherwydd daw Shazam i'r adwy! Deialwch 2580 oddi ar eich ffonau symudol, disgwyliwch am y ciw wedyn rhowch y ffon wrth y sbicar. Woanbihold, o fewn munud neu ddau mi gewch chi negas destun yn nodi enw'r gân a'r artist. Cwl ta be? Mi ddaru fo hyd yn oed nabod 'Sbia ar y Seren' Gorkys.
Cost = 50p y gân