Meddalwedd Fruity Loops

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Meddalwedd Fruity Loops

Postiogan huwwaters » Maw 18 Chw 2003 10:37 pm

Wel, ma nhw di dod a Fruity Loops Studio allan. Ma gynnai fersiwn 3.

Oes gan rhywyn arall brofiad o weithio efo'r meddalwedd cyfansoddi yma? A yw studio yn werth ei brynnu.

Gyda Llaw: mae Fruity Loops yn dda ar gyfer cyfansoddi pob math o gerddoriaeth, oherwydd ei ddawn i derbyn plug-ins ac i synthesisio offerynnau sy'n swnio yr un ffuned a'r gwreiddiol.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Gruff Goch » Mer 19 Chw 2003 9:46 am

Ma gen i gopi o fersiwn 3 yn rhywle, ond anaml fydda i'n ei ddefnyddio fo. Mi faswn i'n anghytuno efo chdi pan wyt ti'n dweud ei fod o'n addas ar gyfer creu pob math o gerddoriaeth, gan nad ydi o'n galluogi i ti recordio llais/gitâr yn syth i mewn i'r rhaglen, a gan fod y dull o orfod gweithio mewn 'patrymau' yn dy gaethiwo di braidd. Er hynny, os mai cerddoriaeth ddawns o rhyw fath wyt ti am ei wneud, does yna fawr gwell- yn enwedig am y pris. Efallai y dylwn i fynd a chofrestru ar gyfer y fersiwn presenol, beth bynnag- erbyn hyn mae'n gweithio oddi mewn i Logic fel plug-in... Y gorau o ddau fyd?

Gruff
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau


Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron