Tudalen 1 o 1

Sample Cd's

PostioPostiwyd: Mer 12 Maw 2003 11:29 pm
gan Dyl mei
Oes Rhywun isho gwerthy,swapio sample Cd's?

PostioPostiwyd: Iau 13 Maw 2003 11:13 am
gan Hedd Gwynfor
Beth yw sample cd's yn meddwl? sdwff ti di neud dy hunan ife a'i llosgi ar cd? Siwd ma Lynz yn joio ar c2?

PostioPostiwyd: Iau 13 Maw 2003 11:29 am
gan Mihangel Macintosh
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Beth yw sample cd's yn meddwl?


CD's wedi ei cynhyrchu yn fasnachol yn cynnwys curiade, breaks a samples ar gyfer DJ's a Cynhyrchwyr. Fel hwn . Y broblem gyda nhw yw fod pawb gyda nhw - mae'n well tracio lawr y breaks gwreiddiol. Ma na rhai sampl CD's mwy ecsgliwsif ar gael am tua £60/80 gyda .wav's yn ogystal a audio.

Gennai nifer o'r rhai Music Of Life - ond di nhw ddim yn dda iawn. Fel arfer gei di un trac da per CD. Well gennai ddefnyddio curiadau cyfres "Jazz Breaks" gan DJ Food.

PostioPostiwyd: Iau 13 Maw 2003 11:48 am
gan Gruff Goch
Dwi'n tueddu i osgoi defnyddio loops wedi eu samplo- mae'n well gen i greu drum beats o samples o hits unigol. Yr unig sample CD sy gen i ydi Pure Drums gan Yellow Studios, sef samples o hits unigol ar gyfer tua 15 o drym kits gwahanol. Dwi'n cael y rhan fwyaf o fy samples oddi ar y we am ddim drwy chwilio Google...

Ma gen i'r 30 rhifyn diwethaf o Computer Music, sy'n dod efo samples ar y CDs, ond anaml fydda i'n defnyddio'r samples oddi ar rheina- dwi'n tueddu i ddefnyddio'r CDs yna i gael gafael ar y soft synths diweddaraf.

Gruff