Dwi di prynnu tocynau ar gyfer Nos Sadwrn (Jules Holland a Jamie Cullum) a nos Lun (Dafydd Iwan, Nia Ben Aur a Hergest). Dwin edrych ymlaen ato fo. Wrach fod o'n ganol y ffordd o'i gymharu gyda lot o gerddoriaeth. Ond be sydd o'i le gyda hynny? Dyma'r bandiau sydd yn debygol o werthu tocynau, neith trwch mawr y boblogaeth ddim talu i fynd i weld bandiau eraill.
Yn bersonol well genai weld Dafydd Iwan a Nia Ben Aur nag rhai o'r shit Cymraeg sydd allan wan, o leiaf elli di gael hwyl yn canu caneuon enwog nhw tra'n feddw. Does genai ddim syniad o'r rhan fwyaf o ganeuon bandiau cyfoes Cymraeg, (heblaw am Anweledig, Celt).
Wrach byddai noson ymyl y ffordd yn dda? Neu lwyfan arall, ermwyn i 'Alternatives' Maes E gael mynd i fwynhau!