Clirio Samples

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Clirio Samples

Postiogan Gruff Goch » Maw 08 Ebr 2003 2:06 pm

Oes 'na rhywun yn famma'n gwybod rhywbeth am glirio samples i'w defnyddio mewn caneuon? Dyl, Mihangel neu John?

Dwi bron a gorffen trac (gobeithio) lle dwi wedi samplo'n helaeth o 'Dim Ond Cysgodion' Meic Stephens (à la Eminem efo'i sample o Aerosmith ar ei albym diweddaraf). Dwi'n amau mai Sain sy' berchen ar yr hawlfraint. Pa mor anodd ydyn nhw'n gallu bod o ran a) cael yr hawl i wneud a b) cael yr hawl i wneud heb orfod tal trwy fy nhrwyn?

Diolch,

Gruff :D
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

hawlfraint

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 08 Ebr 2003 7:58 pm

Peth gore i ti neud ydy cysylltu a Sain a trio cael taro rhyw fath o deal. Ma nhw fel arfer yn iawn am ddefnyddio sampls o'i backcatalog, ond fydd rhaid i ti hefyd gysylltu a'r Ysgrifennwyr. Ma fe lan i nhw rili i rhoi caniatad i ti. Fase fe'n syniad anfon copi atyn nhw hefyd.

Yn y gorffennol be dwi wedi neud gyda can gyda sample o hen record Sain ydy deal lle mae Sain yn cael 33% o'r Hawlfraint Mecanyddol (MCPS) a fy nghwmni cyhoeddi i yn cael 66%. Yna mae'r splits ysgrifennwyr (PRS) yn cynnwys ysgrifennwyr y gan a samplwyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Dyl mei » Maw 08 Ebr 2003 9:40 pm

dwi di samplo "dim ond cysgodion" Hefyd. mae sain reit dda yn gadael chdi defnyddio stwff Nhw. mae 33% yn deal reit dda.
Rhithffurf defnyddiwr
Dyl mei
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1068
Ymunwyd: Maw 07 Ion 2003 7:01 pm

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 08 Ebr 2003 10:01 pm

Os dwi'n cofio'n iawn, Rhian yn yr adran breindal ydy'r person i siarad a. ond elli di wastad e-bostio neu ysgrifennu at Don Dafydd Iwan.

gyda llaw, 33% oedd y deal ges i a un trac, ond hefyd ma nhw wdi cymryd 100% am draciau erill sydd gyda canrhan mawr iawn o sampls. H.y. y backin' trac wedi ei wneud yn llwyr o sampl Sain. Dibynnu sut ti'n sbinio fe iddyn nhw...
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Gruff Goch » Mer 09 Ebr 2003 9:57 am

Diolch am y wybodaeth :D .

Dwi'n falch o glywed mai trwy freindal mae'r petha' ma'n gweithio! Does gen i ddim pres i dalu up ffront! Mi wna i gysylltu efo Sain unwaith ma' 'na fwy o siâp ar y trac. Dwi'n cymryd fod angen cael caniatad personol Meic hefyd felly?

Gruff
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau


Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai