Oes 'na rhywun yn famma'n gwybod rhywbeth am glirio samples i'w defnyddio mewn caneuon? Dyl, Mihangel neu John?
Dwi bron a gorffen trac (gobeithio) lle dwi wedi samplo'n helaeth o 'Dim Ond Cysgodion' Meic Stephens (à la Eminem efo'i sample o Aerosmith ar ei albym diweddaraf). Dwi'n amau mai Sain sy' berchen ar yr hawlfraint. Pa mor anodd ydyn nhw'n gallu bod o ran a) cael yr hawl i wneud a b) cael yr hawl i wneud heb orfod tal trwy fy nhrwyn?
Diolch,
Gruff