Wrthi'n pori trwy'r we o'n i gan ddod ar draws bod Jamelia yn perfformio'n Hwlffordd dy' Llun nesa' (do, fi wedi cael fy nal yn chwilio am bethau Jamelia-related ar y we - ond ffac man, ma hi mor bert...fi hyd yn oed yn tapio'n nhroed i'w cherddoriaeth...ma fe'n dda, cynhyrchu ardderchog...neu a'i fi sy just yn ffansio hi'n ormodol...o, am goese...(ond fel dywed fy nhad, dwy ti ddim yn hoffi neb yn ormodol nes bod restraining order yn cyrraedd drwy'r post).
Beth bynnag, yn ol bob son, does na'm gwyl rhagor.
Oedd rhywun yn ymwybodol bod y fath beth yn cael ei gynnal? A'i trap oedd hwn gyda Heddlu Dyfed Powys, er mwyn dal y "bastard bach sy'n actio rhy debyg i Barry 'he may not be guilty, but at least he's off the street' George"? A'i cadw fi'n y tywyllwch oedd y bwriad? Mmmmmmmm?