Mae gennyf blentyn sy'n dioddef yn ddrwg iawn o ddyslecsia, yn ol yr ysgol gynradd. Er mai Cymraeg yw ei iaith gyntaf, mae o fel petai'n well am ddarllen Saesneg.
A oes unrhyw ddeunydd, profion, cynlluniau ayb yn y Gymraeg , ogdd ? Mae popeth fel petai yn y Saesneg. Yr wyf yn cofio clywed son am rhyw ganolfan ym Mangor yr ai plant atynt, ond hyd y cofiaf i ( nid bod hyn yn synnu neb) , Saeson rhonc hollol di-Gymraeg oeddent. Ni glywais amdanynt ers tro bellach.