[canllawiau] 1d Hawlfraint ac Enllib
Postiwyd: Iau 06 Ion 2005 3:19 pm
canllawiau maes-e a ddywedodd:1d. Atgoffir aelodau am y cyfraith ynglyn รข hawlfraint ac enllib. Caiff unrhyw ddeunydd anghyfreithlon ei ddileu'n syth, a rhoddir rhybudd/gwaharddiad i'r rhai a'i bostiodd.
Yn fras iawn, os wyt ti'n postio "Mae Person X yn baedoffeil." ac wedyn mae person X yn gweld y neges, mae perffaith hawl 'da fe mynnu mod i'n dileu'r neges, neu fynd i'r llys i amddiffyn cywirdeb y datganiad gwreiddiol.
Dydy'r busnes hawlfraint ddim mor debyg i achosi problemau (dyw e ddim hyd yn hyn, ta beth) ond mae'n werth cofio amdano. Gweler hefyd y pwynt nesa am ddefnyddio lluniau sy'n eiddo rhywun arall.