Tudalen 1 o 1

[canllawiau] 1dd Dwyn "bandwidth"

PostioPostiwyd: Iau 06 Ion 2005 3:22 pm
gan nicdafis
canllawiau maes-e a ddywedodd:Dylid cofio nid yw "bandwidth" yn rhad ac am ddim. Gall postio lluniau oddi ar wefannau pobl eraill achosi problemau.


Am wn i, ddim wedi achosi problemau hyd yn hyn, ond werth cofio amdano.

PostioPostiwyd: Gwe 22 Medi 2006 8:16 am
gan nicdafis
*bwp*

Jyst i atgoffa am hyn. Mae'r un un peth yn wir am rhithffurfiau - wedi gweld sawl rhithffurf sy'n ymddangos fel hyn:

Delwedd

(sef llun sy ddim yn bodoli)

a dw i'n cymryd bod pobl wedi "hotlinco" i luniau ar wefannau eraill.

Mae pobl yn wneud hyn gyda rhithffurfiau maes-e hefyd - hynny yw, defnyddio bandwidth dw i'n talu amdano fe i ddangos rhithffurf ar fforwm rhywle arall. Nid y "talu" sy'n fy mhoeni - dyw hynny ddim yn broblem - ond mae'n wneud cawlach o'r ystadegau, ac mae'n jyst yn anghwrtais.

Paid! :drwg:

;-)