Tudalen 1 o 1

[canllawiau] 1e Defnyddio testun arferol

PostioPostiwyd: Iau 06 Ion 2005 3:26 pm
gan nicdafis
canllawiau maes-e a ddywedodd:1e. Ar y cyfan, dylid cadw at "testun arferol" wrth bostio negeseuon. Hynny yw, peidiwch รข gor-ddefnyddio gwenogluniau ( ;-) :wps: :rolio: ), ffontiau mawr a bychain a lliwiau gwahanol. Peidiwch defnyddio LLYTHRENNAU BRAS ("gweiddi") na gormod o farciau atalnodi (!!!), yn enwedig yn nheitlau edeifion.


Mae hyn yn stwff sylfaenol iawn. Croeso i'r Rhyngrwyd.

PostioPostiwyd: Maw 31 Ion 2006 9:38 am
gan nicdafis
Bwp bach i hwn gan mod i wedi dileu llawer o <b>???</b>iau ac <b>!!!</b>iau yn diweddar.

Dydy defnyddio mwy nag un marc cwestiwn ddim yn wneud dy gwestiwn edrych yn fwy pwysig, mae'n jyst wneud i ti edrych fel newyddian di-glem.

Yr un peth gyda LLYTHYRENNAU BRAS, yn enwedig mewn teitlau edeifion. Paid

PostioPostiwyd: Gwe 22 Medi 2006 8:20 am
gan nicdafis
*bwp*

Mae hyn yn digwydd yn reit aml. Does dim angen mwy nag un ebychnod/marc cwestiwn yn unrhywle, ac yn sicr does dim angen LLYTHRENNAU BRAS FEL HYN MEWN TEITL EDEFYN.

Dyw neud pethau fel hyn ddim yn neud dy edefyn edrych yn fwy pwysig/cyffrous - mae'n jyst neud i ti edrych fel newyddyn di-glem sy ddim wedi darllen y ffycin canllawiau.

Croeso i maes-e :crechwen: