Tudalen 1 o 1

[canllawiau] 1ff Dyfyniadau doeth

PostioPostiwyd: Iau 06 Ion 2005 3:32 pm
gan nicdafis
canllawiau maes-e a ddywedodd:ff. Byddwch yn ofalus wrth ddyfynnu o negeseuon pobl eraill. Peidiwch â dyfynnu llawn sgrîn o destun er mwyn cytuno ag un pwynt bach.


Os wyt ti'n ymateb i'r sylw diweddaraf mewn edefyn, oes angen dyfynnu o gwbl? Fydd e'n wneud dy sylwadau di yn glirach?

PostioPostiwyd: Gwe 22 Medi 2006 8:28 am
gan nicdafis
Ydw, dw i ar bonanza *bwpio*. ;-)

Mae hyn yn digwydd trwy'r amser. Mae 'na sawl person sy'n, mae'n debyg, defnyddio'r botwm "Dyfynnu" yn awtomatig bob tro, yn lle'r botwm "Ymateb". Mae'n iawn mewn ebost, neu ar USENET, ond mae'n poen yn y pen-ôl ar negesfwrdd lle dych chi'n ymateb i'r neges flaenorol.

Cyn i ti ddyfynnu ar y maes, fodyn i dy hunan "oes angen dyfynnu o gwb?", ac os oes, "beth yw'r cyn-lleiad o'r neges wreiddiol alla i ddyfynnu heb golli sens fy ymateb?"

--

Flin 'da fi am yr holl *bwpio* -- sef, i'r rhai sy ddim yn gyfarwydd â'r term, modd i ddod ag edefyn sy wedi mynd i gysgu yn ôl i olau dydd, heb ychwanegu lot ato fe. Amser hyn o'r flwyddyn mae'n fwy pwysig byth ein bod ni'n cadw llygad ar bethau bychain Dewi Sant-aidd maes-e. Dw i'n gwybod bod y pethau 'ma yn edrych yn bitw, ond gofalu am bethau fel hyn yw rhan o'r rheswm mae maes-e dal yn werth darllen, yn fy marn i.

Gwd, diolch 8)

PostioPostiwyd: Llun 26 Maw 2007 3:32 pm
gan nicdafis
Newydd torri ar draws trafodaeth er mwyn atgoffa pobl am hyn, felly *bwpiaf* yr un pryd.

Am ryw rheswm, mae hyn yn broblem yn y seiadau gwleidyddol yn fwy na dim. Pan bydd yn mynd mas o reolaeth mae'n wneud yr edefyn yn amhosibl i ddilyn, ac mae'n jyst yn ddiog ar ran y person sy'n postio.

Cmon bois, sortwch fe mas. Dyfynnwch yn gall.