Tudalen 1 o 1

[canllawiau] 1ng Hysbysebu

PostioPostiwyd: Iau 06 Ion 2005 3:43 pm
gan nicdafis
canllawiau maes-e a ddywedodd:1ng. Hysbysebu. Mae croeso i chi ddefnyddio maes-e i hybu eich gigs, digwyddiadau, CDs, llyfrau ac yn y blaen, ond peidiwch dechrau mwy nag un edefyn er mwyn "gwneud yn siwr bod pawb yn gweld". Bydd sbamwyr yn cael eu rhybuddio/gwahardd.


Mae lot o "ardal llwyd" yma, ond yn y bôn, does dim ots 'da fi o gwbl os ydy aelodau cyfredol am ddefnyddio maes-e i werthu/hybu eu stwff. Beth dw i ddim yn lico yw pobl sy'n creu cyfrif <i>er mwyn</i> gwerthu/hybu stwff.

Os dych wir am "neud yn siwr bod pawb yn gweld", cysyllta â fi i drafod prynu hysbyseb bach. Bydd mwy o newyddion am hyn yn y man.