Tudalen 1 o 1

[canllawiau] 1i Negeseuon preifat/sydyn

PostioPostiwyd: Iau 06 Ion 2005 3:58 pm
gan nicdafis
canllawiau maes-e a ddywedodd:1i. Mae'r canllawiau uchod yn berthnasol i "negeseuon preifat" hefyd. Bydd aelodau sy'n camddefnyddio'r sustem negeseuon mewnol yn cael rhybudd ac, o bosib, yn colli'r hawl i ddefnyddio'r sustem honno.


Falle taw hwn yw'r lle gorau i atgoffa pawb ei bod hi'n bosibl i weinyddwyr maes-e (ond ddim y cymedrolwyr) cael edrych ar gynnwys negeseuon preifat rhwng aelodau eraill <b>lle bo angen</b>. Hynny yw, os ydy person X yn dweud bod person Y wedi'i fygwth mewn neges breifat, does dim modd i ni wneud dim byd amdano oni bai ein bod ni'n tseco bod person X yn dweud y gwir, felly mae rhaid edrych ar y neges wreiddiol yn y gronfa ddata.

Mae sawl person wedi cael eu gwahardd o'r maes am gamddefnyddio'r sustem negeseuon mewnol, ac mae sawl un wedi cael rhybudd am wastraffu amser y gweinyddwyr, gan gwyno am rywbeth "am laff". Dyn ni'n cymryd pethau fel hyn o ddifri.