Tudalen 1 o 1

[canllawiau] 2 Llofnodion

PostioPostiwyd: Iau 06 Ion 2005 4:14 pm
gan nicdafis
canllawiau maes-e a ddywedodd:a. Gellid cynnwys hyd at 255 llythyren/gofod mewn llofnod, neu un llun dim mwy na 60 picsel tal x 400 picsel o led. Dim lluniau wedi'u hanimeiddio.

b. Dylid defnyddio maint ffont "arferol" neu "llai". Mae canllawiau uchod ynglyn â chynnwys ac ansawdd cofnodion yn berthnasol yma hefyd.

c. Cewch ddefnyddio dolennau mewn llofnodion, o fewn y terfynau uchod. Caiff dolennau i safleoedd anweddus eu dileu.


Gawn ni weld os ydy un edefyn ar gyfer y canllawiau ynglyn â llofnodion yn ddigonol.

Dw i'n rhagweld y bydd hyn yn achosi mwy o drafferth na dim byd arall yn y canllawiau newydd, achos bod hyn a'r stwff am rithffurfiau yw'r unig pethau newydd ynddo, yn y bôn.

Cofiwch, nid fi dyfeisiodd y canllawiau yma, dim ond au haddasu dw i wedi wneud ;-)

Dw i'n gwybod bydd hyn yn amhoblogaidd gyda llawer, ond mae'r busnes gyda llofnodion wedi mynd tu hwnt i jôc, gyda sawl aelod yn defnyddio llofnodion sy'n fwy o seis na'r rhan fwya o'u sylwadau. Dyn ni wedi sylwi hefyd, y mwy mae maint llofnod rhywun, y mwy tebyg ydyn nhw i bostio negeseuon fel hyn:
person gyda llofnod anferth a ddywedodd::lol::lol::lol::lol::lol::lol:

sy'n bryfoclyd x2.

Felly, mae amnest o ryw tair wythnos 'da chi, ond erbyn diwedd mis Ionawr bydd llofnodion sy ddim yn cydfynd â'r uchod yn cael eu dileu.

Dw i'n teimlo'n well yn barod. :crechwen:

PostioPostiwyd: Maw 18 Ion 2005 8:38 pm
gan nicdafis
*das bwp*

Os dwyt ti ddim wedi wneud yn barod, elli di sieco bod dy lofnod yn iawn wrth y canllawiau newydd?

Diolch.

PostioPostiwyd: Iau 20 Ion 2005 11:29 pm
gan nicdafis
*bwp* bach 'to.

Dw i wedi golygu llofnodion y Brodyr Llwyd drostynt. ;-)

PostioPostiwyd: Iau 27 Hyd 2005 4:19 pm
gan nicdafis
*la bwp*

Debyg bod pobl wedi anghofio am hyn. Wedi gorfod dileu 3 llofnod yn y 24 awr diwetha.