canllawiau maes-e a ddywedodd:a. Cewch ddewis rhithffurf (S. "avatar") o'r orielau, neu ddefnyddio un personol (cofiwch y canllawiau uchod am gamddefnyddio bandwidth). Ni ddylai rhithffurfiau fod yn fwy na 80x80 picsel, 8kb o faint, na chael eu hanimeiddio. Ni ddylech ddefnyddio rhithffurf sy'n cael ei ddefnyddio gan aelod arall, os yn bosibl.
b. Mae'r canllawiau uchod ynglyn â chynnwys ac ansawdd negeseuon yn berthnasol yma hefyd.
Fel gyda'r canllawiau am lofnodion, dw i'n disgwyl na fydd yn ennill lot o ffreindiau i fi, ond 'na ni, mae amser wedi dod.
Sori i'r llond dwrn ohonoch sydd â rhithffurfiau wedi'u hanimeiddio, ond bydd rhaid iddyn nhw fynd erbyn diwedd y mis.
Os oes wir angen dangos eich sgiliau mad haxor GIFaidd, croeso i ti bostio nhw fan hyn, mewn corff neges, ond dydy GIFiau wedi'u hanimeiddio ddim bod bod yn <i>cutting edge</i> ers 1995.
A dim ond un yn hanes y byd wedi bod yn ddoniol.