Tudalen 1 o 5

[canllawiau] 3 Rhithffurfiau

PostioPostiwyd: Iau 06 Ion 2005 4:23 pm
gan nicdafis
canllawiau maes-e a ddywedodd:a. Cewch ddewis rhithffurf (S. "avatar") o'r orielau, neu ddefnyddio un personol (cofiwch y canllawiau uchod am gamddefnyddio bandwidth). Ni ddylai rhithffurfiau fod yn fwy na 80x80 picsel, 8kb o faint, na chael eu hanimeiddio. Ni ddylech ddefnyddio rhithffurf sy'n cael ei ddefnyddio gan aelod arall, os yn bosibl.

b. Mae'r canllawiau uchod ynglyn â chynnwys ac ansawdd negeseuon yn berthnasol yma hefyd.


Fel gyda'r canllawiau am lofnodion, dw i'n disgwyl na fydd yn ennill lot o ffreindiau i fi, ond 'na ni, mae amser wedi dod.

Sori i'r llond dwrn ohonoch sydd â rhithffurfiau wedi'u hanimeiddio, ond bydd rhaid iddyn nhw fynd erbyn diwedd y mis.

Os oes wir angen dangos eich sgiliau mad haxor GIFaidd, croeso i ti bostio nhw fan hyn, mewn corff neges, ond dydy GIFiau wedi'u hanimeiddio ddim bod bod yn <i>cutting edge</i> ers 1995.

A dim ond un yn hanes y byd wedi bod yn ddoniol.

PostioPostiwyd: Iau 06 Ion 2005 4:29 pm
gan nicdafis

PostioPostiwyd: Gwe 07 Ion 2005 2:34 pm
gan Mr Gasyth
Be di'r broblem efo rhithffurfiau wedi'i animeiddio?

(dwi'n datgan diddordeb, yn amlwg)

PostioPostiwyd: Gwe 07 Ion 2005 3:05 pm
gan nicdafis
Dydy dy un di ddim yn broblem, ond yn anffodus mae rhai ohonyn nhw yn gallu wneud y tudalen yn fwy anodd i'w darllen - falle dim ond i hen rech fel fi sy'n cael trafferth gyda ei lygaid erbyn hyn. Mae 'na rhai sy'n wneud darllen y dudalen yn amhosib gan eu bod nhw tynnu eich sylw trwy'r amser. Gyda'r rhan fwya o borwyr, mae'n bosibl troi y sgrolio off, ond nid ar Safari, a dw i ddim yn gweld pam ddylai pobl newid eu porwr o ddewis er mwyn darllen maes-e.

Wir i ti, dw i ddim yn gor-ddweud, os ydw i moyn darllen negeseuon gan aelodau sy gyda rhithffurfiau (neu llofnodion) wedi'u hanimeiddio, mae rhaid i mi glicio ar sgrol bar Safari a'i dal e tra mod i'n darllen (sy'n stopo'r animeiddio dros dro) - dyna'r unig ffordd dw i'n gallu cadw ffocws ar y testun. Yn aml iawn, dw i'n jyst gwasgu'r botwm "tudalen i lawr".

Fel dwedais i, nid yw dy un di yn broblem, gan bod y symudiad yn ddigon bach, ond yn anffodus does dim modd gosod canllaw sy'n dweud "dim rhithfurffiau wedi'u hanimeiddio (oni bai bod nhw'n chwaethus fel yr un sy gan Mr Gasyth)".

Felly, sori ychan... :crio:

PostioPostiwyd: Gwe 07 Ion 2005 9:47 pm
gan Al
dwin ffeindio nhw yn anodd darllen weithie fyd, mae rhai lluniau sydd wedi ei animeiddio yn gedru fod yn uffernol tra darllen post rhywun

PostioPostiwyd: Gwe 07 Ion 2005 9:56 pm
gan Cymro Sinistr
:crio:

Wps, dwin hoff o symydiadau cyflym....

PostioPostiwyd: Gwe 07 Ion 2005 11:39 pm
gan nicdafis
Diolch i Al am wneud i fi deimlo yn llai unigryw, mewn ffordd drist, ac i'r Cymro Sinistr am roi enghraifft da o'r fath o rithffurf dw i ddim yn gallu ymdopi â fe, yn yr union edefyn lle oedd angen enghraifft o'r fath peth!

Delwedd

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2005 7:42 pm
gan Cymro Sinistr
:lol: :lol:

Falch O Gyfranu

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2005 7:46 pm
gan Cymro Sinistr
Ylwch be di llun fi wan! JPEG, JPEG.....oh, :crio: :crio:

PostioPostiwyd: Sul 09 Ion 2005 10:37 pm
gan nicdafis
Diolch yn fawr CS. Sori i fod mor ddiflas ;-)