Tudalen 4 o 5

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 6:17 pm
gan Jemeima Mop
Lle fedra'i ffendio llunia 80 x 80 picsel? Dw i di bod yn a ma pob llun sy'n dod nol ata'i yn o leia 100 picsel neu fwy.

Dw i'm yn lecio'r genod sy ar ol yn yr oriel gen i ofn. Dw i'n colli fy rhithfurf o'r hogan efo dwy blethen yn byta melon.

:crio:

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 7:33 pm
gan gronw
jyst cop

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 7:52 pm
gan Jemeima Mop
Diolch Gronw :)

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 8:01 pm
gan Al
Start>Accessories>Paint

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 8:59 pm
gan dafydd
Jemeima Mop a ddywedodd:Lle fedra'i ffendio llunia 80 x 80 picsel? Dw i di bod yn a ma pob llun sy'n dod nol ata'i yn o leia 100 picsel neu fwy.

Paid poeni os wyt ti'n dewis rhithffurf o'r oriel - sdim ots os yw rheiny yn fwy na 100 picsel.

Os wyt ti eisiau newid maint llun wyt ti wedi gael o rhywle arall, mae teclyn defnyddiol ar y wefan yma

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 9:27 pm
gan gronw
Al a ddywedodd:Start>Accessories>Paint

neu gwell fyth: Cychwyn>Pob Rhaglen>Ategolion>Paent :D

doedd hwnna ddim yn gyngor techngol gyda llaw, dwi'm yn deall cyfrifiaduron chwaith - gwranda ar dafydd, mae'n fet gwell*.

*treiglad o bet, nid sillafiad cymraeg o vet.

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 9:37 pm
gan ceribethlem
gronw a ddywedodd:*treiglad o bet, nid sillafiad cymraeg o vet.
milfeddyg, fet, hmmmmm, mae un llythyren yn debyg, camgymeriad hawdd :winc:

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 9:42 pm
gan gronw
ceribethlem a ddywedodd:milfeddyg, fet, hmmmmm, mae un llythyren yn debyg, camgymeriad hawdd :winc:

hoho ceri b, rydych athrylith.

hmmm, milfeddyg, fet, dwy lythyren. camgymeriad hawdd :winc:

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 9:44 pm
gan ceribethlem
gronw a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:milfeddyg, fet, hmmmmm, mae un llythyren yn debyg, camgymeriad hawdd :winc:

hoho ceri b, rydych athrylith.

hmmm, milfeddyg, fet, dwy lythyren. camgymeriad hawdd :winc:
:wps: bolycs :wps:

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 10:10 pm
gan Tegwared ap Seion
gronw a ddywedodd:*treiglad o bet, nid sillafiad cymraeg o vet.


oni'n meddwl mai treiglad o "met" odd gin ti. :wps: