Tudalen 1 o 1

[canllawiau] 4a Un aelod, un cyfrif

PostioPostiwyd: Iau 06 Ion 2005 4:43 pm
gan nicdafis
canllawiau maes-e a ddywedodd:4a. Un aelod, un cyfrif. Peidiwch ag agor mwy nag un cyfrif. Os oes mwy nag un gyda chi nawr, cysylltwch ag un o'r gweinyddwyr, gan ddweud pa un dych chi am ei gadw.


Ie, dw i'n gwybod, "dim ond tipyn o hwyl yw e".

Dyw e ddim, mae'n boen yn y pen-ôl. Gwefan drafod yw hon, nid maes chwarae i <i>situationalists</i> di-waith. Cer i chwarae gyda dy hunaniaeth ar wefan rhywun arall.