Tudalen 1 o 1

[canllawiau] 5a Sustem "3 thrawiad"

PostioPostiwyd: Iau 06 Ion 2005 5:05 pm
gan nicdafis
canllawiau maes-e a ddywedodd:a. Mae maes-e yn defnyddio sustem "3 thrawiad". Caiff defnyddwyr eu rhybuddio i fyny at dri tro o fewn cyfnod o dri mis. Am dorri'r rheolau am y pedwerydd tro, caiff y defnyddiwr ei wahardd am adeg rhwng wythnos a mis.


Mae hyn yn ymdrech i fod yn fwy cyson ynglyn â'r ffordd dyn ni'n delio â phroblemau ar y maes, sy wedi bod yn ddigon <i>ad hoc</i> hyd yn hyn . Wrth bostio fe nawr, a'i ailddarllen, dw i'n amau nad yw'n anhygoel o glir sut bydd hyn yn gweithio. Dim ond gweinyddwyr (y rhai gyda cyfrifoldeb dros y safle i gyd, sef fi, Barbarella, Aran a Cardi Bach) bydd yn gallu rhoi rhybuddion fel hyn.

[gol.] A'r cymedrolwr yn y seiat lle mae sylwadau'r wedi'u postio.

I fod yn hollol onest, dw i'n credu bod hyn yn fwy ffurfiol o sustem nag sydd angen arnon ni. Nid ar chwarae plant ydyn ni'n banio pobl o'r maes, ond fel arfer mae'n ddigon amlwg bod rhywun yn cymryd y pis. Dw i ddim yn cofio llawer o achosion lle byddai rhywun wedi cael eu gwahardd dan y sustem yma. Lle mae'n bosibl, mae'n lot gwell gen i gael sgwrs â rhywun, ac yn aml iawn dyn ni'n ffeindio bod y broblem wedi cael ei hachosi gan diffyg dealltwriaeth ynglyn â sut mae'r maes yn gweithio, yn hytrach nag unrhyw ymdrech penodol i fod yn boen.