gan nicdafis » Llun 11 Ebr 2005 5:03 pm
A dyna fe, ti newydd ennill dau bleidlais gwyrdd newydd gen i.
Mae'n fwy na jyst dilyn rheolau, fel ti'n dweud; ychwanegu rhywbeth i'r trafodaeth yw'r peth pwysicaf. Os ydy rhywun yn gofyn cwestiwn, a ti'n ei ateb, mi ddylai dy garma fynd i fyny, gan fod o leia un person wedi ffeindio'r ateb yn ddefnyddiol. Ar y llaw arall, os wyt ti'n postio rhywbeth sy'n awgrymu bod y person yn dwp am ofyn cwestiwn mor ddwl, mi eith dy garma i lawr. Er enghraifft.
Hyd yn hyn, dw i'n eitha bodlon gyda'r ffordd mae sustem carma yn gweithio. Yn aml iawn, dydy pobl gyda carma coch ddim yn aelodau drwg mewn unrhyw ffordd, ond efallai mae tuedd 'da nhw i bostio heb feddwl sut mae'r sylw yn mynd i ffito i mewn i'r trafodaeth.
Dydy'r canllawiau ddim yn gyflawn, wrth gwrs. Mae'n amhosib i esbonio i aelodau newydd pam mae'n hollol iawn i ddweud "ffyc off, y ffycar" mewn edefyn yn y Blwch Tywod, ond nid mewn edefyn yn Materion Cymru. Os dydy'r aelod ddim wedi sylweddoli bpd naws gwahanol yn y ddau seiat, mae'n debyg y ceith e/hi garma drwg am sbel.
Nid mater o ddangos dy fod di'n cytuno â'r neges yw pleidleisio drosti chwaith, ond yn hytrach bod y neges yn un diddorol, adeiladol, helpgar, doniol, perthnasol, afreal (mewn ffordd dda), neu yn ddifyr mewn rhyw fodd arall. Dw i wedi rhoi'r tic bach gwyrdd i negeseuon dw i'n anghytuno â nhw yn llwyr ar lefel gwleidyddol, ond gweld bod nhw ychwanegu at safon y trafod ar y maes.